Mwy o Newyddion
Sir Fynwy’n paratoi i fynd yn Rhufeinig!
Mae Prifysgol De Cymru ar fin mynd â Sir Fynwy yn ôl i’w gwreiddiau Rhufeinig, diolch i gyllid newydd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Gan ddefnyddio’r technolegau 3D a digidol diweddaraf i greu rhith dref Rufeinig, bydd y grant newydd hwn yn golygu y gellir dod â thref Rufeinig Caerwent, wrth ymyl ei chymar adnabyddus Caerleon, yn fyw unwaith yn rhagor, ac yn barod i’w harchwilio.
Caiff pobl ifanc 10-17 oed y cyfle i helpu dylunio ac adeiladu ap a gwefan fydd yn gartref i brofiad Rhufeinig rhyngweithiol a chwbl ymdrochol - yn cynnwys popeth o rith adeiladau a theithiau o’r dref, y storïau dynol y tu ôl i’r arteffactau a ddatgelwyd yn y dref a llu o arfau dysgu eraill.
Mae Jane Ellis, Cydlynydd Ariannu a Digwyddiadau Campws Cyntaf ym Mhrifysgol De Cymru yn esbonio ei gweledigaeth ar gyfer y prosiect: “Dychmygwch ymweld â Chaerwent, lawr lwytho ap ar eich ffôn, edrych drwy’r sbectol rhith realiti a gweld y dref fel y byddai wedi edrych pan godwyd hi gyntaf filoedd o flynyddoedd yn ôl.
"Rydym wrth ein bodd fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ein cefnogi, a’n gobaith yw y byddwn yn ystod y flwyddyn yn agor llygaid y bobl ifanc hyn i dipyn o hanes cyffrous.”
Bydd bron i 40 ysgol ledled De Ddwyrain Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect, sy’n ceisio dod ag ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf a chyrff diwylliannol at ei gilydd am y tro cyntaf i weithio gydag ac ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion na fyddent o reidrwydd yn cael y cyfleoedd i ymhél â diwylliant a’r celfyddydau fel arall.
Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, bwysigrwydd y prosiect: ““Rwyf wedi nodi fy uchelgais i wneud Cymru y genedl fwyaf creadigol yn Ewrop, ac i wneud hynny mae’n rhaid inni sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb.
"Mae’n rhaglen Cyfuno:Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant yn cysylltu cyrff diwylliannol yn agosach gyda’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion.
“Mae’r prosiect hwn yn cefnogi’r nod hwnnw o osod diwylliant yng nghalon ein cymunedau a bydd yn ased i’r ardal leol a’r holl bobl ifanc fydd ynghlwm ag ef.”
Bydd y prosiect yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc fydd yn rhan ohono ddysgu beth mae Tref Rufeinig Caerwent yn ei ddweud wrthym am y goresgyniad Rhufeinig a’r ffordd yr aethant ati i feddiannu ac ymsefydlu yng Nghymru, gan ddefnyddio’r dechnoleg 3D ymdrochol ddiweddaraf, yn ogystal â chynnig ffordd arall i bobl ifanc ddysgu mwy am archaeoleg.
Mae olion archaeolegol Caerwent, neu Venta Silurum fel y’i gelwid gan y Rhufeiniaid, yn rhoi cip inni ar ddiwylliant a bywyd mewn tref farchnad Rufeinig brysur oedd yn cynnwys siopau, tai, baddonau, temlau, neuadd ddinesig a marchnad.
Mae Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru yn esbonio pam mae gan y prosiect arwyddocâd arbennig iddo ef: “Bydd Prosiect Tref Rufeinig Caerwent yn crynhoi at ei gilydd nifer fawr o bartneriaid gwych a bydd hefyd yn cynnig ffordd newydd a chreadigol i bobl ifanc archwilio ein gorffennol pell, sy’n golygu y gall dros 500 o ddisgyblion cynradd ac uwchradd o ysgolion mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf gymryd rhan, dysgu a chael hwyl gyda hanes Rhufeinig yr ardal.
“Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn gwirfoddoli eu hamser i gefnogi eu cyd-ddysgwyr iau trwy helpu dylunio a chreu’r modelau 3D, a bydd 50 o bobl ifanc yn derbyn hyfforddiant achrededig gydag Achrediad Agored Cymru, fydd yn rhoi cyfle iddynt ddarganfod mwy am y gorffennol tra’n ennill sgiliau a chymwysterau newydd ar gyfer y dyfodol.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gellir gwneud defnydd ardderchog o’r arian a godir trwy werthu tocynnau mewn prosiectau fel hwn, sydd o fudd i grŵp mawr o bobl ifanc mewn nifer o ffyrdd gwahanol – rwyf yn edrych ymlaen at neidio mewn i rith dref Caerwent fy hunan!”