Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2015

'Mae ar Gymru angen llywodraeth newydd: Llafur yn methu ym mhob maes cyfrifoldeb'

Wrth i'r Blaid Lafur ymgynnull yn Brighton ar gyfer ei Chynhadledd Flynyddol ddoe, mae Plaid Cymru wedi amlygu sut y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu pobl Cymru ym mhob prif faes cyfrifoldeb.

Dywedodd Arweinydd Grwp San Steffan Plaid Cymru, Hywel Williams AS, fod record Llafur ar iechyd, addysg a'r economi yng Nghymru ar ôl 16 mlynedd ddi-dor mewn grym wedi gadael ein cenedl ar waelod y gynghrair mewn meysydd allweddol ac wedi creu llywodraeth flinedig a difflach ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Mr Williams mai methiant oedd prif nodwedd cyfnod Llafur mewn grym, a bod yr angen am lywodraeth Plaid Cymru dan arweinyddiaeth gref Leanne Wood yn fwy nag erioed.

Dywedodd Mr Williams: "Ym mhob prif faes y maent yn gyfrifol amdano - iechyd, addysg a'r economi - mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu pobl ein gwlad.

"Ar ôl 16 mlynedd o lywodraeth Lafur ddi-dor yng Nghymru, mae ein cenedl ar waelod bron pob cynghrair bwysig sy'n golygu fod cleifion, disgyblion a staff y sector gyhoeddus yn dioddef.

"Cymru roddodd y Gwasanaeth Iechyd i'r byd - testun balchder mawr - ond mae record warthus Llafur o redeg ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr yn taflu cysgod dros hyn. Nid yw amseroedd aros diagnostig erioed wedi eu cyrraedd, ni chafodd targedau aros ambiwlansys eu cyrraedd mewn 11 o'r 12 mis yn 2013-14, ac mae gan Gymru lai o feddygon y pen na'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop.

"Ym maes addysg, roedd canlyniadau PISA Cymru yn 2012 yn is na phob rhan arall o'r DG ar gyfer Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

"Mae'r Llywodraeth Lafur hefyd yn llawer rhy barod i feio San Steffan am broblemau economaidd Cymru. Drwy fethu herio Llywodraeth San Steffan a mynnu pwerau creu-swyddi i Gymru, mae Llafur wedi colli sawl cyfle i roi hwb i'r economi a chreu gwaith.

"Er gwaetha'r holl sôn am gefnogi polisïau Plaid Cymru i sefydlu Banc Datblygu a thorri cyfraddau busnes, maent wedi methu gweithredu ar y ddau achlysur.

"Methiant yw prif nodwedd y Llywodraeth Lafur hon ac mae hi'n hen bryd i bethau newid. Mae Plaid Cymru - dan arweinyddiaeth gref Leanne a gyda chynllun llywodraeth uchelgeisiol - yn cynnig y newid hwnnw.

"Wrth i'r blaid Lafur ranedig a di-drefn brysuro gyda gollwng a gostwng targedau, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar godi safonau a disgwyliadau.

"Gyda'n cynlluniau cyflawn i drawsnewid y Gwasanaeth Iechyd Cymreig, galluogi'n hysgolion a'n prifysgolion i gystadlu gyda'r gorau ledled Prydain a thu hwnt, a sicrhau adferiad economaidd cynaliadwy, mae Plaid Cymru yn barod i gynnig y newid sydd ei angen."

Rhannu |