Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2015

Codi gwydriad i win cyntaf Jabajak

Mae gwinllan newydd yn Sir Gaerfyrddin - Jabajak - wedi ymuno â rhengoedd disglair diwydiant gwin Cymru gyda lansiad ei gwin cyntaf, sydd newydd ennill ei wobr gyntaf hefyd!

Cynhaliwyd y lansiad yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru, lle daeth perchnogion gwinllannoedd o bob rhan o Gymru ynghyd yng ngwinllan Jabajak yn yr Hendy-gwyn ar Daf ar gyfer y gystadleuaeth.

Roedd hefyd yn ddiwrnod o ddathlu i Jabajak wrth i'w gwin cyntaf dderbyn gwobr arian bwysig.

Cafodd Bwyty ac Ystafelloedd Gwinllan Jabajak eu creu gan deulu Stuart Robson: Amanda a Julian, eu plant Jo, Ali a Katie a'r fam-gu Buddug.

"Rydym wrth ein boddau", meddai Amanda. "Mae ennill gwobr arian am ein gwin cyntaf yn anhygoel."

Ar ôl blynyddoedd o weithio dramor, dychwelydd y teulu i gartref Amanda yng ngorllewin Cymru i osod gwreiddiau o wahanol fath - gwinwydd.

Fe wnaethant brynu Fferm Banc-y-Llain a'i hail-enwi yn Jabajak - enw a ffurfiwyd o lythrennau cyntaf enwau aelodau'r teulu - a mynd ati i greu bwyty pum seren gydag ystafelloedd, a phlannu tair erw o winwydd.

Bu'n broses hir gyda llawer i'w ddysgu, ond roedd cynhaeaf Hydref 2014 i'r dim ac mae gwin cyntaf Jabakaj bellach ar gael.

PERTHNASOL: Aur Dwbl i Gymru yng Ngwobrau'r Great Taste

Mae gwin yn perthyn i'w 'terroir' - mae'r tir a'r amgylchedd y tyfir gwinwydd arnynt yn rhoi ei flas unigryw a neilltuol i win, rhywbeth mae'r teulu yn awyddus iawn i'w danlinellu.

Meddai Amanda: "Mae'r tir yma'n berffaith ar gyfer tyfu gwinwydd gan ei fod yn wynebu'r de gyda llethrau llechen. Hanes y tir yw ein hethos felly ein harwyddair yw 'hiraeth - gwin sy'n perthyn i'w dir."

Y gwin cyntaf i'w lansio yw gwin Gwyn Cymreig y winllan, cyfuniad a ddewiswyd yn ofalus o rawnwin Phoenix a Seyval, sy'n rhoi gwin crisb, cain a chytbwys gydag arlliw gwych o ysgawen.

Mae llawer o lechi yn ar y tir y tyfwyd gwinwydd Jabajak arno, sy'n rhoi ansawdd 'mwynol' ac arlliw crisb a glân i'r gwin.

Bu'n rhaid aros yn hir ond mae'n werth chwil meddai Amanda. "Rydym wrth ein bodd i ni fedru cynhyrchu ein gwin cyntaf. Dechreuodd y broses saith mlynedd yn ôl pan blannwyd y gwinwydd. Byddai'n bosibl cynhyrchu gwin mewn llai o amser ond roeddem eisiau iddynt roi gwreiddiau'n ddwfn yn y tir a chyrraedd y lefel cywir o ran siwgr fel y byddent yn rhoi gwin rhagorol.

"Cawsom ymateb ardderchog gyda phobl yn medru blasu'r terroir ac un hyd yn oed yn disgrifio'r arogl fel bod fel 'glaw ar do llechen poeth."

Bydd gwin pefriog Gwrid Cymreig yn dilyn mewn ychydig fisoedd, Yn win rosé a gynhyrchwyd o rawnwin Phoenix a Seyval, mae wedi ei wrido gyda Rondo gan roi awgrym o fefus gyda gorffeniad crisb a sych. Mae gwin coch ar y gweill i gwblhau'r dewis.

"Rydym wedi plannu Pinot Noir erbyn hyn", meddai Amanda. "Rydym eisiau profi y gellir ei dyfu ar uchder yn y rhan yma o Orllewin Cymru. Ni fydd yn barod am ddeuddeg mis arall ond mae wedi cymryd yn dda."

I ddechrau bydd gwin Jabajak ar gael yn ei fwyty a thrwy flasu drws seler y gwanwyn nesaf.

Cafodd y fenter ei chynorthwyo gyda datblygu brand a marchnata gan Cywain - prosiect a sefydlwyd i roi gwerth ychwanegol i gynnyrch sylfaenol o fewn y sector amaeth.

Meddai Amanda, "Mae Cywain wedi rhoi cefnogaeth wych i ni, yn arbennig Lowri Edwards sydd wedi cydlynu popeth a thrwyddyn nhw rydym wedi gwneud cysylltiadau ardderchog."

Dywedodd Lowri Edwards, Rheolwr Datblygu Cywain dros Dde Ddwyrain Cymru: "Bu'n bleser gweithio gyda Jabajak dros y chwe mis diwethaf i ddatblygu brand i'r winllan a deunydd pacio ar gyfer eu detholiad i winoedd newydd.

"Bu'n gyffrous iawn gweld sut y datblygodd y winllan ac mae'n wych gweld gwinoedd yn cael eu cynhyrchu'n lleol yn Sir Gaerfyrddin. Edrychwn ymlaen at weld y cynnyrch ar eu silffoedd yn y dyfodol agos."

Mae'r teulu wedi troi at hanes eu cartref i frandio eu gwin gan ddewis defnyddio enw 'The White House'.

Mae'n gyfeiriad at ffermdy hynafol y stad, a oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel 'y tŷ gwyn'. Fodd bynnag mae cysylltiadau gydag adeilad llawer mwy enwog o'r un enw gan y credir i'r Tŷ Gwyn yn Washington gael ei enw gan John Adams, un o arlywyddion cyntaf yr Unol Daleithiau.

Roedd John Adams yn ddisgynnydd tenant fferm o Lanboidy a gafodd ei fagu ar Fferm Banc-y-Llain (bellach stad Jabajak). Roedd y ffermdy gwyngalchog mawr lle'r oedd y perchennog yn byw yn sefyll allan ymysg y ffermdai eraill ac chyfeiriai gweithwyr y fferm ato fel 'y Tŷ Gwyn'.

Er nad oedd cartref Arlywydd yr Unol Daleithiau yn Washington yn wyn yn wreiddiol, nodir iddo gael y llysenw yma yn ystod cyfnod John Adams fel llywydd a newidiwyd lliw'r adeilad maes o law.

Ychwanegodd Amanda, "Rydym felly'n credu ei bod yn hollol bosibl i'r enw cyfarwydd 'y Tŷ Gwyn' gael ei drosglwyddo lawr y cenedlaethau fel term i ddisgrifio adeilad lle gwneir yr holl benderfyniadau pwysig - p'un ai am faterion teuluol, amaethyddiaeth .. neu redeg gwlad."

Rhannu |