Mwy o Newyddion
Darn newydd gwerth £158 miliwn o ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cael ei agor heddiw
Bydd darn diweddaraf o gynllun deuoli’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd, yn cael ei agor yn swyddogol heddiw gan Edwna Hart, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
Bydd adran tri o gynllun deuoli’r A465m rhwng Bryn-mawr a Thredegar, yn gwella amser teithio a diogelwch ac yn rhoi hwb i economi’r ardal.
Mae’r gwaith ar 7.8 cilometr o’r ffordd, sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, wedi troi’r ffordd tair lôn yn ffordd ddeuol er mwyn lleddfu’r problemau cyfredol. Yn y gorffennol, mae hi wedi bod yn anodd gweld ar y ffordd ac mae tagfeydd traffig, a diffyg cyfleoedd i oddiweddyd a llecynnau peryglus wedi achosi damweiniau.
Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect Blaenau’r Cymoedd sy’n werth £800 miliwn i ddeuoli’r A465 o’r Fenni i Hirwaun. Bydd y prosiect hwn yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn helpu i adfywio’r rhan hon o Gymoedd De Cymru hefyd.
Wrth agor y ffordd newydd yn swyddogol, dywedodd Mrs Hart: “Mae Llywodraeth Cymru’n sylweddoli bod gwella ein seilwaith drafnidiaeth yn hanfodol i wella cystadleurwydd economaidd Cymru.
"Mae ffordd Blaenau’r Cymoedd yn hanfodol i’n huchelgais i adfywio’r ardal drwy leihau amser teithio a gwella’r swyddi a’r gwasanaethau sydd ar gael.
"Mae’r A465 hefyd yn llwybr hanfodol i’n rhwydwaith drafnidiaeth ac yn brif gyswllt rhwng y Gorllewin a Chanolbarth Lloegr. Bydd deuoli’r ffordd hon yn ei gwneud yn fwy diogel i bawb ei defnyddio.”
Mae’r ffordd, gyda chefnogaeth £82m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn ymestyn o’r gogledd o gylchfan yr A465 ym Mryn-mawr ac yn ymuno â rhan o’r A465 sydd eisoes wedi cael ei gwella yn uniongyrchol i’r gorllewin o gyffordd Nant-y-Bwch yn Nhredegar.
Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys adeiladu 5 cilometr o lwybr beicio, man gorffwyso yn Garn Lydan ynghyd â mwy o le i barcio, gwybodaeth i dwristiaeth a mannau gwylio i gyfeiriad Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae Adran 3 (Bryn-mawr i Dredegar) yn ymuno ag Adran 1 sydd wedi’i chwblhau ac wedi’i deuoli’n llawn (Y Fenni i Gilwern) ac Adran 4 (Tredegar i Dowlais Top). Bydd Adran 2 (Gilwern i Fryn-mawr) yn cael ei chwblhau yn 2018 a bydd y ddwy adran olaf sef Adran 5 (Dowlais i’r A470) ac Adran 6 (A470 i Hirwaun) wedi’u cwblhau erbyn 2020.