Mwy o Newyddion
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru
Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr 24ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, gan anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau a theledu yng Nghymru.
Cyflwynwyd y seremoni gan Huw Stephens yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Roedd cyflwynwyr y gwobrau’n cynnwys James Dean Bradfield (Manic Street Preachers), Lee Mead (Casualty), Craig Roberts (Just Jim, Submarine), Kimberley Nixon (Fresh Meat) ac Alexander Vlahos (Merlin, The Indian Doctor), a chafwyd perfformiadau gan Amy Wadge ac Only Men Aloud.
Enillodd Set Fire to the Stars dair Gwobr yr Academi Brydeinig yng Nghymru, ar gyfer Coluro a Gwallt (Andrea Dowdall-Goddard), Dylunio Cynhyrchiad (Edward Thomas) a Cherddoriaeth Wreiddiol (Gruff Rhys).
Enillodd Jack to a King dair Gwobr hefyd, ar gyfer Cyfarwyddwr Ffeithiol (Marc Evans), Sain (Bang Post Production) a Golygu (John Richards).
Enillodd A Poet in New York ddwy Wobr ar y noson, ar gyfer Ffilm Nodwedd/Teledu (Griff Rhys Jones) ac Effeithiau Arbennig a Gweledol (Bait Studios). Enillodd Da Vinci’s Demons ddwy Wobr hefyd, ar gyfer Dylunio Gwisgoedd (Trisha Biggar) a Ffotograffiaeth a Goleuo (Owen McPolin).
Cyflwynwyd y Wobr ar gyfer Actor i Richard Harrington am ei bortread o DCI Tom Matthias yn y ddrama Gymraeg, Y Gwyll/Hinterland, sydd wedi ennill clod yn rhyngwladol; enillodd y gyfres yn y categori Teitlau a Hunaniaeth Graffeg (Sarah Breese) hefyd. Cyflwynwyd y Wobr ar gyfer Actores i Rhian Morgan am ei rôl fel Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref.
Enillodd Y Streic a Fi y categorïau Cyfarwyddwr Ffuglen (Ashley Way) a Drama Deledu ac enillodd Tir y wobr ar gyfer Awdur (Roger Williams).
Yn y categorïau rhaglenni ffeithiol, enillodd Jamie Baulch: Looking for my Birth Mum y Wobr am Raglen Ddogfen Sengl, ac enillodd Adam Price a Streic y Glowyr y Wobr am Gyfres Ffeithiol; enillodd y rhaglen Wobr Gwyn Alf Williams hefyd. Enillodd Y Byd ar Bedwar y wobr Materion Cyfoes am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac enillodd Rhod Gilbert y wobr ar gyfer Cyflwynydd am RAF Fighter Pilot: Rhod Gilbert’s Work Experience.
Eleni, cyflwynwyd y Wobr Torri Drwodd i’r Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr, Clare Sturges, am ei rhaglen ddogfen, Sexwork, Love and Mr Right.
Cyflwynwyd Gwobr Siân Phillips i’r Cyfarwyddwr, Euros Lyn, gan ei gyfaill agos, a chydweithiwr, Russell T Davies.
Daeth y seremoni i ben trwy gyflwyno Gwobr BAFTA ar gyfer Cyfraniad Arbennig i Deledu i Menna Richards OBE, Rheolwr BBC Cymru Wales rhwng 2000 a 2011. Cyflwynwyd y wobr gan gyn-bennaeth Cenedlaethau a Rhanbarthau’r BBC, Pat Loughrey.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Wrth i BAFTA Cymru ddechrau ar ei 25ain blynedd yn dathlu a hyrwyddo diwydiant y cyfryngau creadigol yma yng Nghymru, mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cymaint o ehangder o ran cynnwys a dawn yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru heno.
"Mae’r sector cynhyrchu annibynnol wedi cael ei gynrychioli’n dda unwaith eto, gydag 13 o gwmnïau bywiog ledled y wlad yn ennill gwobrau, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n holl enwebeion ac enillwyr ar ddigwyddiadau BAFTA Cymru o bob cwr, yn annog ac ysbrydoli pobl ddawnus sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru, i fod yn rhan o’r diwydiant rhyfeddol hwn.”
I gael rhestr lawn o enwebeion ac enillwyr, ewch i http://www.bafta.org/wales