Mwy o Newyddion
Buddsoddi £938,000 yn ychwanegol mewn prosiectau ynni'r gwynt cymunedol a lleol
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, wedi cymeradwyo gwerth £938,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer tri phrosiect lleol a chymunedol sy’n ymwneud ag ynni’r gwynt yn Ne Cymru.
Fel rhan o gymorth ariannol ar gyfer prosiectau ynni lleol, bydd Carmarthenshire Energy Limited, sef datblygwr cymunedol bach yng Nghymru, yn derbyn benthyciad gwerth £785,000 ynghyd â grant gwerth £25,000 tuag at adeiladu generadur gwynt 500kw yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Bydd gweithredu'r tyrbin yn creu incwm o hyd at £2.5 miliwn i'r gymuned gydol oes y prosiect. Y bwriad yw defnyddio'r arian ar gyfer cyllido rhagor o gynlluniau ym maes effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy.
Bydd Awel Aman Tawe (AAT),sef prosiect cymunedol sy’n cefnogi datblygiad ynni’r gwynt yng nghymoedd uchaf Aman ac Abertawe, yn derbyn £86,000 yn ychwanegol.
Y prosiect gwerth £6.5 miliwn a sefydlwyd yn 2000 yw'r cynllun mwyaf o'i fath ym maes ynni adnewyddadwy a bydd yn adeiladu dau dyrbin 2.35mw a fydd yn cynhyrchu trydan ar gyfer yr ardal unwaith y bydd wedi'i gwblhau yn 2017.
Bydd AAT yn defnyddio'r incwm a fydd yn deillio o'r prosiect, a fydd werth sawl miliwn dros ugain mlynedd, er lles pentrefi'r ardal.
Mae £42,000 ychwanegol hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer Canolfan Ieuenctid Senghenydd ger Caerffili. Sefydlwyd y Ganolfan Ieuenctid hon ym 1997 fel canolfan ieuenctid a gaiff ei harwain gan y sector a'i chynnal gan wirfoddolwyr. Mae'r Ganolfan wrthi'n datblygu cynllun ar gyfer gosod un tyrbin gwynt 76m ar ffermdir. Bydd y tyrbin hwn yn cynhyrchu 500kw o drydan.
Bwriedir defnyddio'r incwm a fydd yn deillio o'r tyrbin ar gyfer cyllido'r Ganolfan Ieuenctid a'i helpu i ddiogelu swyddi. Bydd hefyd yn helpu pobl ifanc yr ardal i ennyn rhagoro hyder a meithrin sgiliau a fydd yn gwella’n sylweddol eu gallu i sicrhau swyddi.
Dywedodd Carl Sargeant: “Pleser yw gallu dyfarnu’r cyllid ychwanegol hwn i'r tri phrosiect hyn fel rhan o ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i hybu ynni'r gwynt ac ynni adnewyddadwy.
"Mae hefyd yn dangos ein bod yn ceisio helpu cymunedau i dderbyn cyllid o ffynonellau uniongyrchol er mwyn ceisio gwella eu hardaloedd lleol."
"Mae cynlluniau cymunedol a lleol fel y rhain ar gyfer cynhyrchu ynni'r gwynt yn sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i'w cymunedau."