Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Medi 2015

Condemnio honiadau gwrth-gig 'chwerthinllyd'

Mae Gweinidog Materion Gwledig cysgodol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wedi galw ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i gondemnio honiadau 'chwerthinllyd' a wnaed gan Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid Lafur dros Faterion Gwledig Kerrie McCarthy y dylai cig gael ei drin yn yr un modd â thybaco. Cafwyd adroddiad am ei sylwadau yn y Telegraph.

Dywedodd Kerrie McCarthy, sydd wedi dweud ei bod yn ymgyrchydd “milwriaethus” yn erbyn bwyta cig, unwaith: "Rwyf wir yn credu y dylid trin cig yn yr un ffordd yn union â thybaco, gydag ymgyrchoedd cyhoeddus i atal pobl rhag ei fwyta.”

Dywedodd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru fod cynhyrchu cig yn cyfrannu at yr hyn a amcangyfrifwyd fel £1 biliwn i economi Cymru llynedd, ac ychwanegodd y dylai’r Llywodraeth Lafur fod yn gwneud mwy, nid llai, i gefnogi’r sector hollbwysig.

Dywedodd  Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cynaliadwy, Ynni a Bwyd, Llyr Gruffydd: “Ar adeg pan fo ffermwyr yn straffaglian gyda phrisiau cig coch yn plymio i’r gwaelodion, dylai Llafur fod yn gwneud popeth a fedrant i’w cefnogi, nid ymosod arnynt.

“Mae agenda gwrth-gig chwerthinllyd Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid Lafur yn beryglus i economi Cymru. Mae’n amlwg nad yw Llafur yn malio am ein cymunedau gwledig.

“Mae gwneud y gymhariaeth wirion rhwng tybaco, sydd wedi lladd miliynau o bobl, a chig, yn dwpdra pur. Gydag amaethyddiaeth yn wynebu heriau mor ddifrifol mewn cymaint o sectorau, y peth diwethaf mae ar y diwydiant angen yw Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid gydag obsesiwn am bwnc mor amherthnasol.

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn awr gondemnio sylwadau Kerrie McCarthy.”

Rhannu |