Mwy o Newyddion
'Awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn hanfodol' - Leanne Wood
Rhaid i Gymru gael ei awdurdodaeth gyfreithiol ei hun er mwyn i gam nesaf datganoli weithio er budd Cymru.
Dyna alwad Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, heddiw yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned Gyfansoddiadol Prifysgol UCL sy'n honni y byddai cynlluniau presennol San Steffan yn gadael problemau cyfansoddiadol sylweddol heb eu datrys.
Dywedodd Leanne Wood: "Ni all proses ddatganoli Cymru barhau ar hyd y trywydd truenus hwn.
"Ar bob cam o'r ffordd, mae Plaid Cymru wedi cyfrannu'n adeiladol i drafodaethau traws-bleidiol ar ddyfodol datganoli.
"Rydym wedi gweithredu'n gadarnhaol ar bob cyfle. Ond flynyddoedd ar ol cyhoeddi Adroddiadau Silk, fisoedd ar ol i Broses Dydd Gwyl Dewi ddirwyn i ben, mae ein gwlad wedi ei gadael mewn diffeithwch cyfansoddiadol.
"Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn heddiw. Mae'n cefnogi safbwynt Plaid Cymru fod model pwerau ar-gadw yn hanfodol ac y dylid sicrhau hyn ar sail egwyddorion cadarn fydd yn delifro llywodraethiant o safon i bobl Cymru.
"Credai Plaid Cymru y bydd y model hwn ond yn gweithio gydag awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig newydd - fel yr hyn sydd gan bob rhan arall o'r DG.
"Sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yw'r ffordd orau o sicrhau eglurder, i lywodraethiant effeithiol, i'r llysoedd, ac i'n dinasyddion.
"Yn yr adroddiad pwysig hwn, mae'r arbenigwyr annibynnol wedi cwestiynu pam fod Whitehall wedi gwadu Cymru nifer o'r cyfrifoldebau sydd wedi eu trosglwyddo i'r Alban a Gogledd Iwerddon ers blynyddoedd.
"Yn wir, ar rai materion, mae'r arbenigwyr wedi cwestiynu a yw'r penderfyniadau i wadu cyfrifoldeb mewn rhai meysydd wedi eu hysgogi gan 'ddewisiadau gwleidyddol byr-dymor' yn hytrach na buddiannau hir-dymor pobl Cymru a'r Deyrnas Gyfunol.
"Mae adroddiad heddiw hefyd yn adlewyrchiad o ddiffyg arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur bresennol Cymru a'i anallu i amddiffyn Cymru.
"Mae Plaid Cymru yn benderfynol o arwain Llywodraeth Gymreig newydd o fis Mai fydd yn mynnu parch gan San Steffan. Po gryfaf fo Plaid Cymru, y cryfaf fo Cymru.
"Mae Cymru yn genedl. Gadewch i ni sicrhau fod ganddi'r offer i ymddwyn fel un."