Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn galw am ddarlledu Newyddion Chwech i Gymru
Mae Plaid Cymru wedi galw am i newyddion gyda’r nos ar yr awr frig gael ei gynhyrchu yng Nghymru, dros Gymru, er mwyn arwain cyfeiriad newydd mewn cyfryngau Cymreig brodorol.
Dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru y byddai rhedeg rhaglen newyddion yr awr frig o Gymru yn mynd i’r afael a natur Lundeinig y newyddion, ac yn gosod safon am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.
Rhoddodd gwleidyddion Plaid Cymru hefyd gynigion gerbron am gyfryngau Cymreig cryfach er mwyn “gwneud bywyd yn galetach i wleidyddion”.
Wrth siarad mewn dadl ar y pwnc yn y Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, dywedodd Elin Jones: “Mae cyfryngau cryf yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth rydd a chadarn yn y genedl hon. Nid i wneud bywyd yn haws i wleidyddion ond i wneud bywyd yn galetach iddynt.
“Mae angen i ni roi gwell cyfle i bobl graffu ar eu cynrychiolwyr etholedig, a’r llywodraeth yn arbennig.”
Ychwanegodd Elin Jones: “Yr wyf i o’r farn y gall darlledu cyhoeddus osod y safon ac y dylai wneud hynny. Un ffordd amlwg i wneud hynny fyddai i brif newyddion awr frig y BBC gael ei redeg, ei olygu a’i ddarlledu o Gymru a thros Gymru.
“Fel hyn gallem gael gwedd Gymreig ar newyddion y DG a rhyngwladol - yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddai hyn yn arwain at gyfeiriad newydd yn y cyfryngau Cymreig brodorol a byddai o les i ddemocratiaeth yng Nghymru.”