Mwy o Newyddion
Yr arwr rhyfel ‘Ambush Alf’ yn brif westai yn agoriad cynllun tai gwerth £4.2miliwn
Mae arwr yn yr Ail Ryfel Byd yn dechrau bywyd newydd, diolch i gynllun tai gwarchod blaenllaw - 75 mlynedd ar ôl iddo osgoi cael ei ladd gan SS y Natsïaid.
Roedd Alf Davies, 95 oed, yn brif westai yn agoriad swyddogol y datblygiad sy’n werth £4.2 miliwn, a adeiladwyd gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy yn Llandudno.
Mae Alf yn un o denantiaid Cysgod y Gogarth ac mae ei atgofion hynod ynghylch dianc o afael angheuol yr SS wedi’u cofnodi ar gyfer yr oesoedd i ddod mewn capsiwl amser sydd wedi’i gladdu ar y safle.
Cafodd chwe thenant arall eu cyfweld hefyd, i sôn am hanes eu bywydau.
Wrth iddynt gilio tuag at Dunkirk yn wyneb ymosodiadau ffyrnig yr Almaenwyr drwy Ffrainc a Gwlad Belg yn ystod haf 1940, amgylchynwyd grŵp o filwyr Prydeinig gan yr uned chwedlonol greulon Leibstandarte Adolf Hitler.
Aethpwyd â rhai yn garcharorion ac, yn ddiweddarach, lladdwyd 80 ohonynt gan grenadau a bwledi wrth iddynt gael eu gyrru i mewn i ysgubor.
Ond, ymysg y rheiny a lwyddodd i ddianc rhag lladdfa enwog Wormhout, fel y’i gelwid yn ddiweddarach, oedd Alf, a oedd yn aelod o fagnelfa leol y Magnelwyr Brenhinol.
Ym mhen amser, cyrhaeddodd yr arfordir a chafodd ei gludo yn ôl i Brydain, a bu fyw i ymladd ei ffordd drwy Ewrop tan ddiwedd y rhyfel yn 1945.
Bu Alf yn denant i Cartrefi Conwy ers sawl blwyddyn, a chafodd wahoddiad i fod ar frig rhestr y gwesteion ar gyfer agor Cysgod y Gogarth yn Trinity Avenue, lle y mae ei gyd-gymdogion yn ei alw’n annwyl yn “Ambush Alf” oherwydd ni fu ond dim iddo gael ei ladd.
Mae Cartrefi Conwy wedi disodli dau gynllun tai gwarchod sy’n heneiddio - Llys Seiriol, a Llys Eryl sydd gerllaw - gyda 30 o fflatiau a thai newydd o’r radd flaenaf ar gyfer pobl hŷn ar yr un safle.
Cynlluniwyd y datblygiad hwn, sy’n torri cwys newydd ac yn gosod safonau newydd o ran effeithiolrwydd ynni, gyda phwyslais cadarn ar “rym y bobl” o ran sut mae’r preswylwyr yn dymuno iddo edrych a chael ei ddefnyddio, ac mae bwriad hefyd iddo fod yn ganolfan gymdeithasol ar gyfer y gymuned ehangach.
Fe’i dyluniwyd a’i adeiladu gan benseiri RL Davies Construction Cyf o Fae Colwyn, sydd wedi ennill gwobrau, ac mae’n cynnwys cymysgedd amrywiol o fflatiau gydag un neu ddwy ystafell wely, yn ogystal â phedwar tŷ, dau gyda dwy ystafell wely a dau gyda thair ystafell wely.
Goroesodd Ambush Alf, a ymddangosodd mewn ffilm ddogfen, Bringing Back Memories, a gomisiynwyd gan Cartrefi Conwy ac sydd bellach yn Amgueddfa Llandudno, y lladdfa ym 1940 yn y dref y mae Llandudno bellach wedi gefeillio â hi, drwy neidio i mewn i afon a dianc ar draws y caeau cyn cyrraedd traethau Dunkirk, lle cafodd ei gludo i Brydain.
“Ar ôl i’r ymosodiad ddod i ben, cefais fy hun gyda rhai o’r dynion mewn garej a oedd a cheir ynddo. Roedd yr Almaenwyr yn saethu atom ac roedd y bwledi’n taro’r ceir, ac roedden ni’n ceisio cadw ein pennau i lawr, “ meddai.
“Llwyddais i ddianc ar ôl i un o’r dynion falu ffenestr ac roedd yn bosibl i ni ddianc drwy gefn yr adeilad.
“Dyma ni’n neidio i mewn i afon i ddianc. Dyma rhai’n troi i’r chwith, tra bu i mi a rhai o’m ffrindiau droi'r ffordd arall a rhedeg tuag at yr afon.
“Yn ddiweddarach, canfuom fod y rhai a aeth y ffordd arall wedi cael eu dal a’u rhoi yn yr ysgubor gyda nifer o’r milwyr Prydeinig eraill.
“Galwodd yr SS ar y dynion i ddod allan fesul pump ac fe wnaethon nhw eu saethu yn y fan a’r lle.”
Ychwanegodd Alf, sy’n hen daid i bedwar o blant: “Roeddwn yn byw yn Llys Eryl am 18 mlynedd ac roeddwn am symud i ystâd newydd Cysgod y Gogarth pan fyddai’n agor.
“Mae’r fflat llawr gwaelod sydd gennyf yn awr yn ddymunol iawn ac mae’r staff yn gymwynasgar iawn â mi.
“Ni ddychmygais erioed y byddwn yn byw mewn rhywle mor smart â hwn ac mae’n wych fy mod wedi cael fy ngwahodd i’r agoriad swyddogol.
“Roeddwn yn eithriadol o lwcus fy mod wedi dianc rhag yr ymosodiad hwnnw ac mae byw’n ddigon hir i allu symud i rywle neis fel hwn yn wych.”
Dewiswyd un o’i gyd-drigolion, June Ann Perry, 70 oed, i helpu i dorri’r rhuban ar gyfer y datblygiad newydd, ochr yn ochr â’r Cynghorydd Andrew Hinchcliff, pencampwr pobl hŷn Cyngor Conwy.
Dywedodd Ann, a gafodd ei geni a’i magu yn Llandudno: “Roeddwn yn arfer byw mewn fflat dwy lofft yn Llys Eryl ac roeddwn yn un o’r bobl gyntaf i symud i mewn i’r datblygiad newydd hwn.
“Rwy’n byw yn y fflat pentis ar yr ail lawr, sydd â dwy ystafell wely hefyd, ac mae’n hyfryd.
“A deud y gwir, dwi’n meddwl bod yr holl le yn fwy crand na rhai o’r gwestai yr wyf wedi aros ynddynt, ac rwy’n cael trafferth credu fy mod yn byw yma.
“Dewiswyd fy enw o het ar gyfer helpu i dorri’r rhuban, ac rwy’n lwcus iawn fy mod wedi cael fy newis.”
Meddai’r Cynghorydd Andrew Hinchliff wrth iddo ddatgan bod y datblygiad ar agor: “Mae’n bleser mawr fy mod wedi cael fy ngwahodd yn ffurfiol i agor y datblygiad newydd gwych hwn sy’n adfywio Strategaeth Tai i Bobl Hŷn Cyngor Conwy.
“Mae’r prosiect yn adlewyrchu’r gwaith partneriaeth gwych sy’n digwydd rhwng y cyngor a Cartrefi Conwy.”
Dywedodd Iwan Davies, prif weithredwr Cyngor Conwy, a oedd yn bresennol yn y seremoni agoriadol hefyd: “Mae byd o wahaniaeth rhwng y ddau ddatblygiad hŷn a oedd ar y safle a Chysgod y Gogarth, sy’n ateb anghenion a nodwyd ar gyfer tai ar gyfer pobl hŷn yn yr ardal hon.
“Mae cael datblygiad arloesol newydd, smart fel hwn mewn lleoliad mor bwysig yn adfywio’r holl ardal.
“Mae’r cyngor yn gwerthfawrogi’n fawr y berthynas waith agos sydd gennym â Cartrefi Conwy.”
Roedd y datblygiad newydd wedi creu argraff hefyd ar Dr Peter Higson OBE, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a oedd yn westai pwysig arall yn yr agoriad.
Meddai: “Mae’r bwrdd iechyd yn awyddus iawn i weithio gyda chymdeithasau tai fel Cartrefi Conwy i gefnogi pobl wrth iddynt fynd yn hŷn.
“Cysgod y Gogarth yw’r dyfodol ac mae’n rhaid iddo fod y ffordd ymlaen i bob un ohonom.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Mae hwn yn ddatblygiad arloesol ac yn gam mawr arall yn narpariaeth Cartrefi Conwy o lety modern a hyblyg ar gyfer pobl hŷn sy’n byw yn y gymuned.
“Yma, cânt y gorau o’r ddau fyd. Gallant fyw’n annibynnol ac, os oes angen rhagor o gymorth arnynt wrth i’w hamgylchiadau newid, gellir darparu hynny yn yr un cyfleuster.
“Rydym am greu cymuned go iawn yng Nghysgod y Gogarth a darparu’r gorau ar gyfer pobl hŷn.
“Rwy’n gobeithio y byddaf yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i strategaeth pobl hŷn Cyngor Conwy.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n penseiri a’n contractwyr, RL Davies, o Fae Colwyn, am y gwaith arbennig y maent wedi’i wneud ar y datblygiad.
“Mae hefyd yn ganmoladwy eu bod wedi penodi 95 y cant o’u gweithwyr o blith llafurwyr lleol, a bod ganddynt 12 o hyfforddwyr ar brofiad gwaith ar y prosiect.”
A chafwyd cymeradwyaeth gynnes pan ychwanegodd Mr Bowden: “Mae Cysgod y Gogarth yn addas ar gyfer y genhedlaeth hŷn ac yn addas ar gyfer arwyr.
“Ac mae ein harwr ni ein hunain yn yr Ail Ryfel Byd, Ambush Alf, yma gyda ni heddiw.
“Mae ei hanes yn anhygoel, ac mae’r hyn a wnaethoch drosom yn ystod y rhyfel yn wych iawn.”
Mae gan y datblygiad newydd loriau gwaelod, a lloriau ar ddwy lefel arall, ac mae lifft ar gyfer cyrraedd y rheiny, yn wahanol i’r llety blaenorol.
Mae wedi’i leoli mewn gerddi wedi’u tirlunio’n brydferth ac mae mannau parcio wedi’u cadw ar gyfer tenantiaid a’u gwesteion.
Dyluniwyd pob cartref i fod yn gwbl hygyrch ar gyfer tenantiaid anabl, gydag ystafell ymolchi a chegin fodern.
Un o brif nodweddion y datblygiad yw ei fod wedi’i ddylunio o gwmpas ardal sy’n “ganolfan gymunedol” lle y gall preswylwyr fynd i gyfarfod ffrindiau a mwynhau amrywiaeth o gyfleusterau hamdden.
Bydd yr ardal hon hefyd ar gael fel lleoliad ar gyfer grwpiau lleol sy’n dymuno cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau.
Rhoddwyd yr opsiwn i denantiaid Llys Seiriol a Llys Eryl archebu lle yn y datblygiad newydd a symud i lety dros dro nes ei fod yn barod, neu symud i un o gynlluniau tai eraill Cartrefi Conwy.
Dewisodd nifer o bobl y datblygiad newydd ac ymgynghorwyd â hwy bob cam o’r ffordd wrth iddo gael ei adeiladu.
Ffurfiwyd grŵp llywio o drigolion ar gyfer Cysgod y Gogarth ac mae’r aelodau wedi gwneud penderfyniadau am y cynlluniad mewnol a’r brandio o ran y logo ar ei gyfer.
Roeddent hefyd yn cael dweud eu barn am ba weithgareddau a digwyddiadau a fyddai’n cael eu cynnal yn y ganolfan gymunedol, a fydd ar gael i’r holl gymuned ei defnyddio.
Fel rhan o’r broses ymgynghori, dewisodd y trigolion yr enw Cysgod y Gogarth ar gyfer y datblygiad hyd yn oed.
Lluniodd Cartrefi Conwy y cynllun ailadeiladu ar ôl penderfynu nad oedd Llys Seiriol a Llys Eryl, a fu’n sefyll ers tua 50 mlynedd, yn bodloni safonau ansawdd tai Llywodraeth Cymru.