Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Medi 2015

Arddangosfa Gaza: Trwy Lygaid Ifanc yn teithio Cymru

Bydd Trwy Lygaid Ifanc, cyfres o ddarluniau gan bobl ifanc yn eu harddegau o Balesteina fu’n byw yn Gaza trwy’r gwrthdaro rhwng Israel a Gaza yn ystod haf 2014 yn cael ei harddangos mewn lleoliadau ledled Cymru fel rhan o Gaza ar Gaza, arddangosfa ehangach o waith gan artistiaid o Balesteina.

Yn cyd-fynd â phen-blwydd Cymorth Cristnogol yn 70 oed, ymhlith y lleoliadau y bydd yr arddangosfa i’w gweld ynddynt mae Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Eglwys Sant Ioan yn Llandudno a Phlas Tan y Bwlch yn Eryri, ymhlith  lleoliadau eraill.

Cymerodd yr artistiaid ifanc ran mewn prosiect a drefnwyd gan bartner Cymorth  Cristnogol y Gymdeithas Diwylliant a Rhyddid Meddwl (CFTA), mudiad sy’n darparu gweithgareddau therapiwtig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Ar ôl y cadoediad, a ddaeth wedi 51 diwrnod o wrthdaro, aeth y bobl ifanc, o dan oruchwyliaeth y CFTA, allan i lochesi i gyfarfod â phlant eraill a gwrando ar eu storïau. Mae’r darluniau yn yr arddangosfa wedi eu hysbrydoli gan y storïau a’r trafodaethau hyn, eu profiadau personol a’r hyn a glywsant ar y newyddion ac oddi fewn eu cymunedau.

Mae Lama Shakshak, 16, o Gaza yn esbonio: “Mae fy mhaentiadau yn mynegi hawliau plant Palesteina i fyw mewn amgylchedd sy’n ddiogel, heb wrthdaro a thrais. Mae plant Palesteina yn dal yno, er gwaetha’r anawsterau a’r dinistr o’u cwmpas. Mae’r CFTA wedi bod yn gymorth mawr imi trwy roi pensiliau a phaent imi ddarlunio fy nioddefaint.  Wrth baentio teimlaf fod rhywbeth yn fy nghalon yn cael ei ryddhau.”

Hawliodd y gwrthdaro dros 1,500 o fywydau sifiliaid a dadleolwyd 500,000 o bobl o’u cartrefi. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod 400,000 o blant yn gorfod cael rhyw fath o gymorth iechyd meddwl er mwyn ymdopi â’r digwyddiadau a welsant ac a brofasant yn ystod haf 2014.

Mae’r CFTA yn cynnig cefnogaeth allweddol i bobl ifanc trwy roi’r cyfle iddynt ddysgu, chwarae a thyfu eu doniau mewn gofod sydd mor ddiogel ag y gellir ei ddarparu. Mae’r mudiad yn eu hannog i fynegi eu hunain ac i wireddu eu breuddwydion i ddod yn artistiaid, awduron, cerddorion neu actorion – ac i ddod at ei gilydd a defnyddio eu sgiliau i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Dywedodd Anna Jane Evans, Cydlynydd Rhanbarthol Cymorth Cristnogol yng Nghymru: “Rydym yn falch iawn ein bod yn dod â’r arddangosfa newydd hon i Gymru a gobeithiwn y bydd yn rhoi golwg newydd inni ar fywydau pobl fu’n byw trwy’r gwrthdaro. Gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn cael eu hysbrydoli gan y paentiadau, y storïau a glywant ac y sylweddolant y gwahaniaeth y gallwn ei wneud gyda’n gilydd i fywydau pobl yn Gaza.”

Yn ogystal â’r darluniau, mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys cyfres o ddelweddau o’r dinistr gan y ffotograffydd arobryn Heidi Levine, a deithiodd i Gaza gyda Chymorth Cristnogol yn 2014 i gofnodi canlyniadau ymosodiadau Israel.

Caiff Gaza ar Gaza ei guradu gan ymgyrch Gaze on Gaza, Cymorth Cristnogol a Gŵyl Gelfyddydau Palesteina mewn partneriaeth â P21 Gallery.

Llun: “Mae fy llygaid yn dweud wrthych am freuddwyd a oresgynnodd y ffens” Cydnabyddiaeth: Soliman Shaheen, 15 oed

Rhannu |