Mwy o Newyddion
Plac glas ar gyfer un o arloeswyr radar
Bydd gwyddonydd arloesol o Abertawe yr helpodd ei waith i ennill Brwydr Prydain yn cael ei anrhydeddu yn ei ddinas enedigol.
Bydd Cyngor Abertawe'n cydnabod Edward 'Taffy' Bowen trwy osod plac glas y tu allan i gartref ei febyd yn y Cocyd yn ddiweddarach eleni.
Bu Bowen, ffisegydd a aned ym 1911, yn helpu i gyfrannu at ddatblygu technoleg radar a oedd mor effeithiol i luoedd y Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd.
Graddiodd o Brifysgol Abertawe gydag anrhydedd dosbarth cyntaf ym 1930. Roedd Bowen, a fu farw ym 1991, hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu seryddiaeth radio yn UDA ac Awstralia.
Fe wahanodd â'i wraig, Vesta, yn y 1970au a adawodd Awstralia i fyw yn ardal Castell-nedd. Roedd ganddynt dri mab - Edward, David a John.
Mae Cyngor Abertawe bellach yn galw ar unrhyw un sy'n perthyn i Vesta neu Edward gysylltu fel y gellir gwahodd cynifer o'i deulu a'i ffrindiau â phosib i seremoni ddadorchuddio'r plac glas ddiwedd mis Tachwedd.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Roedd Edward Bowen yn un o wyddonwyr mwyaf dawnus a dylanwadol yr 20fed ganrif. Rhoddai ei athrylith wrth helpu i ddatblygu technoleg radar yn fantais hollbwysig i'r Cynghreiriaid yn ystod rhai o frwydrau pwysicaf yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys Brwydr Prydain a Brwydr Môr Iwerydd.
"Mae'r gwaith hwn, ynghyd â'i gyfraniad at seryddiaeth radio yn ystod ei amser yn UDA ac Awstralia, yn golygu ei fod yn teilyngu cael ei anrhydeddu gyda phlac glas yn Abertawe, ei ddinas enedigol, oherwydd y sefydlwyd y cynllun i ddathlu ein meibion a'n merched mwyaf nodedig.
"Fodd bynnag, rydym yn cael anawsterau'n olrhain perthnasau ar hyn o bryd, felly rydym yn annog unrhyw un sy'n gwybod be maen nhw neu y mae eu manylion cyswllt ganddynt i gysylltu â ni. Byddai'n wych pe gallen ni gael cynifer o'i deulu a'i ffrindiau â phosib i ddod i seremoni ddadorchuddio'r plac glas."
Yn ystod ei amser yn Awstralia, helpodd Bowen i ddylunio Arsyllfa Parkes yn Ne Cymru Newydd mewn menter a ddefnyddid i olrhain llawer o chwiliedyddion gofod, gan gynnwys teithiau Apollo.
Caiff ei blac glas ei osod yn Lôn Stepney. Dyfarnwyd y Medal Anrhydedd i Bowen gan UDA ym 1947 - y clod mwyaf y gall ei roi i dramorwr.
Gofynnir i unrhyw un sy'n gwybod am leoliad ei berthnasau gysylltu â Richard Porch yng Nghyngor Abertawe trwy e-bostio richard.porch@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 636489.