Mwy o Newyddion
Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi yn addo cynyddu'r cyflenwad tai
Mae Llywodraeth Cymru a'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) wedi llofnodi cytundeb i gynyddu'r cyflenwad tai a manteisio i'r eithaf ar y swyddi lleol a'r cyfleoedd hyfforddi sy'n cael eu creu gan y diwydiant adeiladu yng Nghymru.
Mae adeiladu tai yng Nghymru wedi gweld twf cryf, parhaus yn y blynyddoedd diwethaf, gydag ystadegau a gyhoeddwyd dim ond yr wythnos ddiwethaf yn dangos bod cyfanswm o 1,750 o gartrefi newydd wedi eu hadeiladu yn ystod Ebrill-Mehefin 2015 - cynnydd o ddeg y cant ar yr un chwarter y llynedd.
Mae'r cytundeb yn ceisio datblygu ar y gwaith da hwn, gan helpu i sicrhau bod y cyflenwad tai yn bodloni'r galw cynyddol a gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd am fudd cymunedol sy'n cael eu creu gan fuddsoddiad lleol. Mae hefyd yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun llwyddiannus, Cymorth i Brynu - Cymru. Mae'r cynllun hwn yn rhoi hwb i brynwyr ac adeiladwyr fel ei gilydd; yn sicrhau bod mwy o dir y sector cyhoeddus ar gael ar gyfer buddsoddi preifat; ac yn cwtogi ar fiwrocratiaeth ddiangen.
Wrth siarad cyn lansiad y cytundeb yn The Quays, datblygiad Glannau'r Barri, meddai'r Gweinidog sy'n gyfrifol am dai, Lesley Griffiths: "Mae hyder wedi dychwelyd i'r diwydiant tai yng Nghymru, gyda chynnydd blynyddol mawr mewn datblygiadau newydd sydd wedi eu dechrau a chartrefi newydd sydd wedi eu hadeiladu. Mae hyn yn newyddion da ac yn dangos yr effaith y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn ei gael trwy gynlluniau fel Cymorth i Brynu - Cymru, sydd eisoes wedi cefnogi'r gwaith o adeiladu a gwerthu 1,976 eiddo.
"Rwy'n benderfynol o weld y momentwm hwn yn parhau ac rwy'n credu bod mwy eto y gallwn ei wneud i barhau i ddarparu cartrefi i bobl ledled Cymru. Mae'r cytundeb rwyf wedi ei gyhoeddi heddiw wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth agos â'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a'u haelodau, a bydd yn ein helpu i gyflawni ein blaenoriaeth o gynyddu'r cyflenwad tai."
Fel rhan o'r cytundeb, mae'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a'i aelodau yn ymrwymo i fanteisio i'r eithaf ar swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi lleol yn deillio o waith adeiladu, yn darparu tystiolaeth fanwl i lywio polisi tai, ac yn gweithio gyda Chymdeithasau Tai i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o stadau preifat.
Meddai Mark Harris, Ymgynghorydd Polisi a Chynllunio Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru: "Bydd adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen yn dod â buddion cymdeithasol ac economaidd i bob rhan o Gymru.
"Os gallai'r Llywodraeth gyflwyno polisïau sy'n creu amgylchedd y gallai adeiladwyr tai weithredu o'i fewn, bydd y diwydiant yn darparu'r cartrefi newydd sydd eu hangen. Mae sicrhau y gallai pobl brynu a bod y system gynllunio yn sicrhau digon o dir yn y mannau iawn yn allweddol.
"Mae'r diwydiant wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda gwleidyddion i gynyddu'r ddarpariaeth o gartrefi newydd o ansawdd uchel. Mae'r Cytundeb yn datblygu ar y berthynas a ddatblygwyd eisoes rhwng y llywodraeth a'r diwydiant adeiladu tai wrth i'r holl bartïon geisio chwarae eu rhan i sicrhau bod y cartrefi y mae Cymru eu hangen yn cael eu hadeiladu."