Mwy o Newyddion
Darpariaeth band eang yn holl bwysig i economïau gwledig
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi defnyddio dadl seneddol ar gysylltedd digidol cefn gwlad i dynnu sylw at y diffyg cynnydd yn narpariaeth band eang cyflym mewn rhannau o’i hetholaeth, a’r gwahaniaeth yng nghyflymder llawrlwytho rhwng Gwynedd a gweddill y wlad.
Yn ystod ei haraith, cyfeiriodd Liz Saville Roberts AS at ffigyrau sy’n dangos bod argaeledd band eang cyflym yng Ngwynedd yn 53% tra bod cyfartaledd y DU yn 75%. Dim ond 17% o Wynedd sydd â 3G o’i gymharu â 84% ar draws gweddill y wlad. Does dim gwasanaeth 4G yng Ngwynedd.
Mae Mrs Saville Roberts wedi derbyn nifer helaeth o gwynion gan etholwyr ynglŷn a diffyg cyswllt band eang, yn enwedig ardaloedd megis Porthmadog, Rhyd, Croesor a Dolgellau.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae Superfast Cymru, cynllun blaenllaw Llywodraethau y DU a Chymru, ac sy’n cael ei weithredu gan BT, yn datgan y bydd 96% o argaeledd band eang erbyn 2016. Ond mae’n siomedig iawn bod y Llywodraeth ynghyd â BT yn gwrthod datgelu pa rannau o Gymru sy’n cael eu cynnwys yn y 4% sy’n weddill – y tebygolrwydd yw mai ardaloedd gwledig yw rhain.
"O ystyried bod Dwyfor Meirionnydd yn ardal fynyddig iawn, bydd daearyddiaeth yr etholaeth yn chwarae rhan allweddol yn narpariaeth y dechnoleg yma.”
Amlygodd Mrs Saville Roberts sefyllfa busnesau lleol, sydd dan anfantais oherwydd ansawdd annibynadwy band eang. Ychwanegodd,
“Mae uwchraddio seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol i sicrhau nad yw’r economi wledig dan anfantais bellach. O dan y sefyllfa bresenol, mae busnesau yn amlwg o dan anfantais ac rwy’n pryderu y bydd darpar gyflogwyr yn meddwl ddwywaith cyn buddsoddi yn yr ardaloedd yma.
"Ni all busnesau cefn gwlad ddibynnu ar gwsmeriaid sy’n pasio heibio yn yr un modd ac mae busnesau mewn ardaloedd trefol megis Llundain a Chaerdydd yn ei wneud. Oherwydd hyn, mae busnesau cefn gwlad yn llawer mwy dibynol ar fasnachu ar-lein. Dyma farn nifer o fusnesau yn fy etholaeth i.
"Mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn ymrwymo i sicrhau bod y 4% o gartrefi a busnesau sydd tu allan i gynllun Superfast Cymru yn derbyn cyswllt band eang cyflym dibynadwy.”