Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2015

Prif Weinidog Cymru’n pwysleisio buddion Cwpan Rygbi’r Byd

Mae Cwpan Rygbi’r Byd yma o’r diwedd. Heddiw, dymunodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, bob hwyl i dîm Cymru yn ei ymdrechion i ennill Cwpan Webb Ellis a thynnodd sylw at y buddion a ddaw yn sgil cynnal digwyddiad o’r fath yng Nghymru.
 
Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Mae gwledydd o bob cwr o’r byd wedi dod yma i gystadlu a bydd miliynau’n gwylio -  dyma gyfle gwych arall i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ar, ac oddi ar, y maes.
 
“Mae rygbi’n rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes – ac mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at Gwpan y Byd. Mae’n gyfle i gefnogi’r tîm unwaith eto, ond mae hefyd yn gyfle i westai, bwytai, bariau, atyniadau a chlybiau gael budd o’r holl ymwelwyr fydd yn dod i fod yn rhan o’r digwyddiad.
 
“Rydym wedi dangos droeon ein bod yn gallu cynnal y digwyddiadau mwyaf oll – a dyma gyfle arall i ddangos hynny. Yn gynharach yr wythnos hon, croesawom Wrwgwai i Gymru a ddydd Mercher bues i’n agor arddangosfa wych am Gwpan Rygbi’r Byd yn yr Amgueddfa Genedlaethol – mae’n rhad ac am ddim a bydden i’n annog pawb i fynd.
 
“Hefyd, bydd yna ardal arbennig i’r cefnogwyr hynny nad oes ganddynt docynnau – mae’n siŵr o fod yn ardal hwyliog – yn ogystal â digwyddiadau eraill ledled y wlad. Bydd y croeso’n gynnes a bydd yn gyfle i bawb i fwynhau gyda’i gilydd.
 
“Pob lwc i Gymru a gobeithio y cawn ni fuddugoliaeth i ddechrau’r twrnament mewn steil.”
 

Rhannu |