Mwy o Newyddion
Galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith o gynorthwyo ffoaduriaid o Syria
Dywed darpar ymgeisydd y Blaid dros Orllewin Abertawe Dr Dai Lloyd y dylai Cymru chwarae rhan amlwg wrth warchod dioddefwyr rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol.
Bydd Dr Lloyd, sy'n gyn-Aelod Cynulliad dros Dde-Orllewin Cymru, yn annerch rali i gefnogi teuluoedd o Syria fory am 1:30pm yn Sgwâr y Castell, Abertawe.
Meddai: "Drwy gydol yr argyfwng mae llywodraeth Llundain wedi gwneud rhy ychydig yn rhy hwyr.
"Ar hyn o bryd mae rhyw bedwar miliwn o bobl yn byw mewn gwesylloedd ffoaduriaid mewn gwledydd sy'n ffinio â Syria - a chyda'r gaeaf ar y gorwel mae'n hanfodol ein bod ni'n cynyddu'n hymdrechion i'w cynorthwyo.
"Mae gan Gymru hanes rhagorol o helpu pobl sy'n wynebu anghenion dybryd, a nawr yw'r amser i arddel y traddodiad gwych yna fel erioed o'r blaen.
Ychwanegodd Dr Lloyd, meddyg teulu yn Abertawe: “Gyda hanes y llywodraeth Brydeinig o ymyraeth mewn materion y Dwyrain Canol – yn enwedig yr ymosodiad anghyfreithlon ar Irac – rhaid i ni i gyd dderbyn ein bod ni'n rhannol cyfrifol am yr argyfwng presennol.
"Mae David Cameron yn dilyn y ffordd rwydd o danlinellu'r cymorth gan Brydain i wersylloedd ffoaduriaid, ond gyda mwy na phedwar miliwn i'w bwydo dim ond £250 y ffoadur yw hynny.
"Mae'r Almaen wedi croesawu bron can mil o ffoaduriaid mewn ychydig o ddyddiau – ac yn darparu bwyd a lloches ar eu cyfer. O'i gymharu, mae ymdrechion Cameron yn ymddangos yn dila dros ben, ac yn werth ond rhan o'r costau bomio Irac yn ystod y blynyddoedd diweddar."