Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Medi 2015

Rhyddhad amodol i'r bedair a weithredodd yn erbyn awyrennau di-beilot

Rhyddhad amodol am chwe mis gafodd y bedair merch a beintiodd y slogan 'Dim adar angau' ar lain glanio Llanbedr, Meirionnydd ar Fehefin 13, 2014.

Daeth deugain o gefnogwyr i'r llys yng Nghaernarfon fore Iau yr wythnos yma, a'r tyst oedd Jill Evans, aelod seneddol Ewrop.

Y bedair oedd Anna Jane Evans, Angharad Tomos, Awel Irene a Sian ap Gwynfor.

Eu dadl oedd fod ganddynt reswm cyfreithiol dros weithredu i atal 'trosedd yn erbyn dynoliaeth'.

Cafwyd tystiolaeth gan Jason Coleman sy'n gweithio ar y safle fod cysylltiad rhwng maes awyr Llanbedr a'r cwmni Qinetiq.(cwmni sy'n arbenigo mewn technoleg amddiffyn).

Pryder y merched, sy'n aelodau o Gymdeithas y Cymod yw fod Cymru yn cael ei ddefnyddio fel maes ymarfer i drones, rhwng Epynt, Aberporth a Llanbedr.

Wrth gael ei holi gan y tystion, dywedodd Jill Evans ASE iddi fod yn Gaza a'i bod wedi bod yn dyst i'r difrod fedr drones eu hachosi.

Mae 530 o aelodau seneddol Ewropeaidd wedi galw am wahardd awyrennau robotig.

Dywedodd fod technoleg drones yn datblygu yn gynt na'r datblygiadau yn y gyfraith, a'i fod yn fater niwlog yn gyfreithiol.

Nododd y merched fod drones yn gwneud y byd yn lle peryclach, a bod rhaid gweld y cysylltiad rhwng yr arfau dieflig hyn a thrychineb cyfoes y ffoaduriaid.

Dywedodd y Barnwr Gwyn Jones fod y merched yn euog o'r drosedd, ond nad oeddent wedi gweithredu yn ddi-hid nac yn fyrbwyll.

Rhoddodd ddedfryd o ryddhad amodol a gofyn i'r bedair dalu £565 o gostau yr un.

Nododd Angharad Tomos fod y ddedfryd yn galonogol.

Meddai: “Os ydyw wedi tynnu sylw pobl ar berygl awyrennau di-beilot, yr ydym wedi llwyddo yn ein gweithred.”

Nododd Sian ap Gwynfor, sydd wedi ymddangos mewn llysoedd o'r blaen gyda'r ymgyrch heddwch: “Gweithredu di drais fel wnaethon ni arweiniodd at symud y taflegrau cruise o Gomin Greenham flynyddoedd yn ôl.”

Rhannu |