Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Medi 2015

Cefnogi argyfwng y ffoaduriaid

Ar ddiwrnod Uwchgynhadledd Frys Llywodraeth Cymru ar argyfwng y ffoaduriaid, meddai Carys Thomas Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae 22 o awdurdodau lleol Cymru wedi datgan eu hymrwymiad i wneud gymaint â phosib i gefnogi argyfwng y ffoaduriaid, yn dilyn llif o gydymdeimlad gan bobl Cymru.

"Mae’r addewid hwn i’w groesawu a nawr mae angen ei wireddu, gan na fydd nifer o’r bobl sy’n byw yn y gwersylloedd ffoaduriaid yn goroesi gaeaf arall.

“Yn ôl Dadansoddiad Cyfran Deg Oxfam, dylai Cymru fod yn ailgartrefu o leiaf 326 o ffoaduriaid o Syria cyn diwedd 2015.

"Ar hyn o bryd mae dros bedair miliwn o ffoaduriaid wedi eu cofrestru yn y gwledydd sy’n ffinio Syria - mwy na phoblogaeth Cymru gyfan.

“Rydym yn cymeradwyo awdurdodau lleol Sir Fynwy ac Abertawe sydd eisoes wedi cofrestru eu diddordeb i ailgartrefu ffoaduriaid trwy gynllun Adleoli Pobl Fregus o Syria (Vulnerable Person Relocation Scheme).

"Dylid canmol awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Ceredigion, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg hefyd, sydd wedi cymryd camau swyddogol er enghraifft mynd a chynnig swyddogol at eu cabinetau.

“Rydym yn gwybod bod Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, sydd wedi ei lleoli o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, nawr yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gofrestru eu diddordeb mewn pryd ar gyfer y cynllun pum mlynedd a amlinellwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach yr wythnos hon.

"Rydym am i’r broses hon fod yn un gyflym gan fod bywydau yn y fantol.”  

Rhannu |