Mwy o Newyddion
Plaid Cymru am fuddsoddi £590 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaeth iechyd
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn neilltuo £590 miliwn i’w fuddsoddi yn y GIG yng Nghymru, meddai Elin Jones ddydd Mercher.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru y byddai ei phlaid yn buddsoddi’r arian i recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol i’r GIG yng nghymru, mewn integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol er mwyn lleihau amseroedd aros, ac i amddiffyn gwasanaethau ysbytai lleol.
Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i Gymru o ganlyniad i’r £8 biliwn yn ychwanegol o fuddsoddi mewn termau real a addawyd gan lywodraeth y DG.
Dywedodd Elin Jones y byddai’r arian yn cael ei neilltuo dan lywodraeth Plaid Cymru i’w fuddsoddi mewn gwella gwasanaethau iechyd ar draws Cymru.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a rhoi i bobl Cymru y gwasanaeth iechyd maent yn haeddu
"Mae’r llywodraeth Lafur bresennol wedi rheoli dros gyfnod o ddirywiad trefnedig yn y GIG, ac y mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i wrthdroi’r duedd hon.
“Os cânt eu hethol yn llywodraeth ym mis Mai, bydd Plaid Cymru yn gweithredu ein cynlluniau i hyfforddi a recriwtio 1,000 yn ychwanegol o feddygon, i leihau amseroedd aros trwy integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, a thrwy amddiffyn gwasanaethau lleol.
"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau y bydd £590 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y GIG, er mwyn gwella gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru.
“Allwn ni ddim fforddio pum mlynedd arall o gamreoli ein gwasanaethau cyhoeddus gan y llywodraeth. Bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda staff y gwasanaeth iechyd ac yn rhoi i’r GIG yr arweinyddiaeth mae’n haeddu.”