Mwy o Newyddion
Menter gyffrous i adfywio canol tref Llanelli
Cafodd menter newydd gyffrous i adfywio canol tref Llanelli ei chyhoeddi gan Arweinydd Plaid Cymru o Gyngor Sir Caerfyrddin.
Datgelodd y Cyng Emlyn Dole bod Tasglu i’w sefydlu i gefnogi masnachwyr, rhoi hwb i fusnesau a chynyddu nifer ymwelwyr. Bydd hefyd yn datblygu cynllun 15-mlynedd ar gyfer canol tref sy’n mynd trwy gyfnod economaidd a masnachol anodd ar hyn o bryd.
"Bydd y Tasglu yn canolbwyntio ar weithredu,” meddai'r Cyng. Dole. “Nid siop siarad fydd e.
"Bydd angen canlyniadau. Bydd yn cael ei ymrwymo i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer canol y dref er mwyn ysgogi twf a buddsoddiad, a hynny trwy ddulliau cadarnhaol, arloesol a chydweithredol."
"Mae hyn yn newyddion da dros ben," meddai Helen Mary Jones, darpar ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.
"Bu angen mawr ers blynyddoedd lawer am y fath ymagwedd strategol i ddatblygu canol y dref. Rwyf wrth fy modd o weld y cyngor sir, ar ôl bod o dan arweiniad Plaid Cymru ers ychydig fisoedd yn unig, yn dangos gweledigaeth a brwdfrydedd o'r fath."
Bydd y Tasglu cychwynnol yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o'r Cyngor Sir, Cyngor Tref Llanelli, Cyngor Gwledig Llanelli, y Siambr Fasnach, grŵp Ardal Gwella Busnes, Canolfan St Elli, Plas Llanelly a rheolwyr Eastgate.
Bydd y camau gweithredu posibl yn cynnwys casglu barn y sector preifat, arbenigwyr eiddo masnachol a buddsoddwyr; nodi rhwystrau i dwf; adolygu rôl tai mewn adfywio canol trefi; chwilio am rai canlyniadau cyflym; cynnal digwyddiadau; ac ystyried sut y gall sgiliau a dysgu gyfrannu at ddatblygu busnes ac adfywiad.
Bydd y Cynllun 15- mlynedd yn darparu templed i gydlynu buddsoddiad gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat, nodi gofynion isadeiledd allweddol a nodi rhaglen farchnata a chyfathrebu clir.