Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Medi 2015

Un Dyn a’i Gi – a’i drelar

Mae gwneuthurwr trelar mwyaf Ewrop wedi rhoi help llaw i’r rhaglen deledu boblogaidd One Man and His Dog.

Cafodd y treialon cŵn defaid eu cynnal mewn lleoliad trawiadol, oedd yn edrych dros Gastell y Waun, ar gyfer un rownd o'r gystadleuaeth fydd yn cael ei darlledu ar nos Sul, 27 Medi.

Roedd y gystadleuaeth, sydd bellach yn rhan o raglen Countryfile BBC One, yn cynnwys trelar C8 gan Ifor Williams Trailers yn hytrach na'r lloc arferol fel rhan o dasg derfynol y cystadleuwyr.

Daeth bugeiliaid o Iwerddon, Lloegr, yr Alban a Chymru draw i gymryd rhan o dan lygad barcud y cyflwynwyr Matt Baker ac Ellie Harrison a phanel y beirniaid a oedd yn cynnwys yr arbenigwr cŵn defaid Aled Owen, o Penyfed, Tŷ Nant, ger Corwen. Roedd pob tîm yn cynnwys un cystadleuydd uwch ac un cystadleuydd iau.

Yn ddiweddar bu Aled, sydd â diadell o 750 o ddefaid ar ei fferm 280 erw lle mae hefyd yn magu ac yn hyfforddi cŵn defaid, yn fuddugol yn nhreialon cenedlaethol Cymru am y pedwerydd tro ac ef fydd capten tîm Cymru pan fyddant yn cystadlu yn Dumfries yn yr Alban.

Dywedodd: “Mae fy fferm ond chwe milltir i ffwrdd o ffatri Ifor Williams Trailers yng Nghynwyd ac rwyf wedi defnyddio eu trelars erioed.

“Ffermwr ydwyf yn bennaf a dydy’r trelars erioed wedi fy ngadael i lawr. Roedd y prawf yn y Waun yn anodd, ond rwyf wrth fy modd eu bod wedi defnyddio un o drelars Ifor Williams ar ei gyfer.”

Ymhlith y cystadleuwyr o Gymru oedd Medwyn Evans, o Lanfachreth ger Dolgellau, un o’r ddau fugail sy’n gweithio ar Ystad Nannau. Mae gan yr ystad dros 2,200 o famogiaid ac ŵyn.

Ar ôl cystadlu gyda'i ast bedair oed Meg, dywedodd Medwyn: “Roedd yn gystadleuaeth galed ac roedd y defaid yn dipyn o her. Roedden nhw reit bowld -  defaid sydd ddim yn gweld cŵn yn rheolaidd oedden nhw.

“Fe wnes i fwynhau’r profiad serch hynny, ac roeddwn yn falch o gael y cyfle i gystadlu a gweithio yma.

“Mae'n anhygoel gan ein bod yn defnyddio trelar echel ddwbl Ifor Williams ar yr ystad, a phe bai gen i bunt am bob mamog ac oen rydw i wedi eu llwytho ar y cerbyd - byddwn yn ddyn cyfoethog iawn!”

Mae'r seren ifanc Rhion Owen, 13 oed, yn dod o Benysarn, Ynys Môn, ac yn ddisgybl yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

Bu Rhion yn cystadlu dros Gymru yn y gystadleuaeth iau a dywedodd ei fod wedi mwynhau cymryd rhan yn One Man and His Dog.

Dywedodd: “Roedd yn anodd iawn. Mi wnaeth Ross, fy nghi, sy'n saith oed, gydio yn un o'r mamogiaid a oedd yn dipyn o hunllef ac mi gollais lawer o bwyntiau oherwydd hynny. Roeddwn yn nerfus iawn o flaen y camerâu.

“Rwy'n byw ar fferm fy nhaid a phan nad ydw i'n yn yr ysgol rwy’n gofalu am 250 o ddefaid. Dechreuais weithio gyda chŵn defaid rai blynyddoedd yn ôl ac rwy’n mwynhau’r gwaith yn arw. Dyma beth rwyf am ei wneud. Rwy'n gweithio gyda fy hyfforddwr Gwyn Owen.”

Dywed Mr Owen, cyn-brifathro a gafodd ei fagu ac sy’n dal i fyw ar fferm, bod gan Rhion ddawn naturiol i drin cŵn defaid, ac y bydd yn siŵr o ennill llawer o gystadlaethau yn y dyfodol.

Meddai: “Enillodd Rhion gystadleuaeth Agored Cymru am y tro cyntaf yn 13 oed ac ef yw'r cyntaf erioed yng Nghymru i wneud hynny. Rwy'n athro wedi ymddeol a daeth Rhion ataf i gael ychydig o wersi ychwanegol cyn iddo fynd i'r ysgol uwchradd.

“Doedd y profion yn y Waun ddim yn hawdd, ond doedd dim disgwyl iddyn nhw fod, ac roedd y prawf trelar yn arbennig o anodd. Dw i'n ffan mawr o Ifor Williams Trailers nhw yw arweinwyr y farchnad yn fy marn i.

“Mae gen i ychydig o’u trelars ac rwy'n eu defnyddio trwy'r amser. I fod yn onest, rwy'n meddwl bod y ffaith mai trelar newydd sbon oedd yr un a ddefnyddiwyd ar gyfer One Man and His Dog, heb ddim arogl defaid na da byw ar ei chyfyl, yn golygu bod y prawf fymryn yn fwy anodd.”

Dywedodd taid Rhion, Huw Rowlands, Penysarn: “Rwy'n falch iawn ohono. Gwnaeth yn arbennig o dda. Aeth pethau ddim fel y byddai wedi gobeithio yma yn y Waun, ond fo yw'r pencampwr o hyd yn fy ngolwg i.”

Roedd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio yn Ifor Williams Trailers, yn falch eu bod wedi gallu estyn cymorth.

Dywedodd: “Mae One Man and His Dog yn gystadleuaeth eiconig ac mae ei hapêl yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gymunedau gwledig.

“Roedd y lleoliad ar gyfer y rownd arbennig yma o’r gystadleuaeth yn odidog ac roeddem yn falch iawn o gael chwarae ein rhan.”

Llun: Rhion Owen, 13, gyda'i gi Ross a Medwyn Evans efo Meg 

Rhannu |