Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Medi 2015

Arwyddion o gynnydd ar ôl gosod mesurau arbennig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi dweud bod gwaith yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r problemau difrifol a arweiniodd at Lywodraeth Cymru yn gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig.
 
Mae camau sylweddol wedi'u cymryd ym mhob un o'r pum maes y tynnwyd sylw atynt fel rhan o'r mesurau arbennig - llywodraethu, arwain a goruchwylio; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn y Gogledd.
 
Mae cyfres o gynlluniau 100 niwrnod, a gomisiynwyd gan Simon Dean, prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael eu rhoi ar waith ar draws y bwrdd iechyd.
 
Dyma rai o’r newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i'r cynlluniau 100 niwrnod:

* Mae saith ar hugain o fydwragedd wedi cael eu penodi yn dilyn ymgyrch recriwtio;

* Cyflawni pob carreg filltir allweddol yng nghynllun y tu allan i oriau meddygon teulu gyda gwaith nawr yn canolbwyntio ar recriwtio ymarferwyr nyrsio a threfniadau gweithredu diwygiedig;

* Cynnal mwy na 1,000 o sgyrsiau gydag aelodau o'r cyhoedd.

 Mae'r tri unigolyn allweddol a benodwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi gwaith y mesurau arbennig - Peter Meredith-Smith, Dr Chris Jones ac Ann Lloyd - wedi cwrdd staff ac aelodau'r bwrdd; wedi ymweld â gwasanaethau ac wedi'u hadolygu; wedi asesu'r camau a gymerwyd fel rhan o'r cynlluniau 100 niwrnod ac wedi monitro sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i'r gofynion a bennwyd o dan y mesurau arbennig.
 
Dywedodd Mr Gething: “Mae'n rhaid i'r mesurau arbennig ddarparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y tymor hir a rhoi hyder i bobl y Gogledd yng ngallu'r bwrdd i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel.
 
“Bydd statws y bwrdd iechyd o ran trosglwyddo i lefel uwch yn cael ei adolygu'n gyson o dan drefniadau'r fframwaith trosglwyddo. Rwy’n disgwyl gweld cynnydd pellach, ac rwyf am ei gwneud yn glir y bydd y bwrdd iechyd yn parhau dan fesurau arbennig am y tro.
 
“Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn dechrau adolygu’n ffurfiol y cynnydd o dan fesurau arbennig y mis hwn a bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ganol mis Hydref i drafod eu canfyddiadau.”

Llun: Vaughan Gething

Rhannu |