Mwy o Newyddion
Cyllid o £773,000 ar gyfer microlawfeddygaeth arloesol i drin lymffoedema yng Nghymru
Mae’r cleifion cyntaf yng Nghymru wedi cael llawfeddygaeth arloesol i drin lymffoedema yn dilyn hwb ariannol o £773,000 gan Lywodraeth Cymru.
Cymru yw’r ail le yn unig yn y DU i gynnig llawdriniaeth o’r fath, gan adeiladu ar ei henw da am ddarparu gwasanaethau lymffoedema o’r radd flaenaf.
Chwyddo cronig yw lymffoedema, a achosir gan fethiant yn y system lymffatig. Gall hyn fod yn un o sgil-effeithiau triniaeth lawfeddygol a radiotherapi ar gyfer canser, ond mae hefyd cysylltiad â nam genynnol neu haint neu anaf. Nid oes modd gwella’r cyflwr ac mae angen ei drin gydol oes.
Defnyddiwyd y cyllid o £312,000 o gronfa technoleg iechyd a theleiechyd Llywodraeth Cymru i drefnu i ddarparu llawfeddygaeth anastomosis lymffatig gwythiennol (LVA), techneg microlawfeddygol arbennig sy’n uno lymffau darfodedig â gwythïen fyw.
Canfuwyd bod y driniaeth, oedd ond ar gael yn Ysbyty Brenhinol Marsden yn Llundain cyn hyn, yn lleihau episodau o lid yr isgroen, sy’n golygu nad oes bellach angen i gleifion ddefnyddio rhwymau cywasgu i leddfu symptomau.
Mae gwasanaeth Cymru yn defnyddio model ‘prif ganolfan a lloerennau’ – mae’r holl lawfeddygaeth yn digwydd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ym Maglan, ac mae’r holl ofal cyn ac ar ôl llawdriniaeth yn cael ei ddarparu’n lleol drwy uned symudol Gofal Tenovus.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd wedi prynu dyfeisiau symudol gyda darpariaeth teleiechyd i’w defnyddio yn yr uned symudol. Mae hyn yn galluogi trosglwyddo gwybodaeth a chynnal ymgynghoriadau o bell gyda’r uned yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Hefyd buddsoddwyd mewn offer liposugno i gynnig triniaeth amgen i’r rheini lle nad yw LVA yn addas iddynt.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi darparu’r £377,000 o gyllid i hyd at 42 o gleifion ledled Cymru gael y driniaeth bob blwyddyn fel rhan o werthusiad dwy flynedd o fanteision LVA. Cynigiwyd y triniaethau cyntaf ddechrau mis Medi.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:
“Mae gan Gymru wasanaeth lymffoedema sy’n arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Rydym eisiau parhau i wella’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o lymffoedema.
“Gall lymffoedema effeithio ar bobl o bob oedran ac ar unrhyw ran o’r corff. Mae’n effeithio ar bobl am resymau corfforol, seicolegol a chymdeithasol, gan effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd a’r gallu i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol arferol.
“Y llynedd, roedd modd i mi gymeradwyo buddsoddiad yn y llawfeddygaeth arloesol newydd hon, a fydd o fudd i lawer o gleifion ledled Cymru sy’n dioddef o’r cyflwr ofnadwy hwn.
“Mae’r prosiect arloesol hwn wedi gwneud cynnydd da, felly rwy’n falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol o £84,000 o’r gronfa technoleg iechyd a theleiechyd. Bydd hyn yn galluogi’r gwasanaeth lymffoedema i ddatblygu nifer o bresgripsiynau fideo ac apiau i helpu cleifion i reoli eu cyflwr eu hunain, mewn partneriaeth â’r cwmni lleol eHealth Digital Media Ltd.”
Dywedodd Melanie Thomas, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer lymffoedema yng Nghymru:
“Rwy’n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan Gronfa Technoleg Iechyd a Theleiechyd Llywodraeth Cymru i roi’r cyfle i gleifion lymffoedema leihau’r symptomau y mae’n rhaid iddynt fyw â nhw bob dydd.
“Mae LVA yn dechneg arloesol a bydd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru yn arwain y ffordd o ran ymchwilio a gwerthuso’r rhaglen hon. Bydd cefnogi cleifion drwy dechnoleg arloesol newydd fel presgripsiynau fideo yn eu galluogi i ymgysylltu’n llwyr a chynllunio eu gofal yn eu hamser eu hunain, a fydd yn creu perthynas well rhwng y claf a’r therapydd.”