Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn herio’r llywodraeth ar “ddiwylliant symud targedau”
Mae Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru nad yw ei diwylliant o symud targedau pan mae’n methu eu cyrraedd yn ddigon da.
Wrth herio’r Prif Weinidog ynghylch penderfyniad ei lywodraeth i leihau’r targed ar lwyddiant TGAU i blant o gefndiroedd difreintiedig, rhybuddiodd Simon Thomas, bob tro y mae’r Llywodraeth Lafur yn methu cyrraedd targed, eu bod yn ymateb trwy ostwng y targed.
Yn 2012 cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru darged o 37% o blant o ardaloedd Her Ysgolion Cymru i gael graddau C neu uwch mewn TGAU erbyn 2017, ond yr wythnos nesaf, cyhoeddwyd targed newydd ganddynt ar gyfer categoreiddio ysgolion o 34%.
Meddai Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru Simon Thomas: “Gosododd y llywodraeth Lafur darged o 37% i blant o gefndiroedd difreintiedig i gyrraedd graddau A -C mewn TGAU. Ac eto, wedi iddynt fethu a chyrraedd y targed hwnnw, ac wedi cyfaddef nad oedd y targed yn ddigon uchelgeisiol, gostyngodd y gweinidog Llafur y targed hwnnw.
“Y diwylliant hwn o osod targedau yw nod llywodraeth all ddim llwyddo. Mae’r llywodraeth yn fwy parod o lawer i gynnal ymarferiad cysylltiadau cyhoeddus na chodi safonau. Yn union fel y newidiodd y Gweiniodg Iechyd Llafur yr amseroedd ymateb ambiwlans i’w gwneud yn llai uchelgeisiol a haws eu cyrraedd, mae’r Gweiniodg Addysg wedi gostwng ei dargedau addysg.
“Bob tro mae’r llywodraeth Lafur yn methu â llwyddo, mae’n newid y targed. Yn lle newid y targedau, mae’n bryd newid y llywodraeth.”