Mwy o Newyddion
Symud ymlaen i sefydlu Campws Dysgu 3-19 yn Y Bala
Yn ei gyfarfod ar 15 Medi, mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad i sefydlu Campws Dysgu ar gyfer disgyblion 3-19 oed ar safle Ysgol y Berwyn y Bala fydd yn golygu buddsoddiad o fwy na £10 miliwn. Fel rhan o’r penderfyniad gan y Cabinet, bydd adolygiad yn cael ei gynnal o’r ddarpariaeth dwy flynedd ar ôl sefydlu’r campws.
Fel rhan o’r cynllun, bydd Cyngor Gwynedd yn gosod gwasanaethau ar y Campws a fydd yng nghanol y gymuned leol. Rhagwelir bydd y llyfrgell ar ei newydd wedd a sinema gymunedol ynghyd â chyfleusterau chwaraeon, i gyd yn cael eu cynnwys yn nyluniad y Campws. Gall y datblygiad fod yn gatalydd i ddenu rhagor o fuddsoddiad, er enghraifft, cais ar gyfer creu cae chwarae 3G safon ryngwladol. Byddai cae o'r fath yn golygu cryfhau’r bartneriaeth rhwng yr ysgol a chlybiau lleol a fydd yn arwain i fwy o weithgareddau cymunedol drwy'r flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Trwy'r buddsoddiad sylweddol hwn, bydd Cyngor Gwynedd yn sicrhau y bydd plant yr ardal yn derbyn eu haddysg mewn safle sy'n darparu amgylchedd ddysgu newydd o safon unfed ganrif ar hugain. Mae’r buddsoddiad hefyd yn sicrhau dyfodol tymor hir y ddarpariaeth ôl-16 yn yr ardal, a’r ysgolion gwledig yn y dalgylch.
“Bydd y campws newydd yn cynnig adfywio addysg yn y dalgylch er budd plant o bob oed ac mae hefyd yn golygu bydd y gymuned leol yn manteisio yn uniongyrchol o'r buddsoddiad gyda sefydliadau fel y cylch meithrin, grwpiau drama, grwpiau cymdeithasol, aelodau'r llyfrgell a chlybiau chwaraeon i gyd yn elwa.
“Credwn fod y model dewisedig yn un arloesol ac yn fodd o sicrhau gwasanaethau cynaliadwy i ardaloedd gwledig yng Ngwynedd, ac ar draws Cymru yn y pen draw. Mae’r Model yn un y gellir ei ddefnyddio fel sail ar gyfer darpariaethau mewn dalgylchoedd eraill yn y dyfodol, gan gyfrannu at wella ansawdd addysg a sicrhau hyfywedd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus drwy rannu a chyd-leoli gwasanaethau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Thomas: “Rydan ni’n gwerthfawrogi fod yna wrthwynebiad wedi bod gan rai am statws arfaethedig yr ysgol ac rydym wedi gwrando ar yr awydd i adolygu’r ddarpariaeth newydd.
"Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad o berfformiad yr ysgol fydd yn cynnwys ansawdd yr addysg a ddarperir, cynnydd addysgol, profiadau diwylliannol a chymdeithasol y disgyblion, y defnydd o adnoddau, ac unrhyw effaith y category Gwirfoddol a Reolir, (VC, Eglwys yng Nghymru), wedi dwy flynedd o ddyddiad agor y Campws.
"Wrth gynnal y broses yma fe fydd y Cyngor yn ymgynghori gyda rhieni, darpar-rieni a budd-ddeiliaid ehangach er mwyn do di farn ar briodoldeb yr addysg a’r statws eglwysig.
“Ar hyn o bryd, mae Cyngor Gwynedd yn wynebu bwlch ariannol o £33 miliwn dros y tair blynedd nesaf, a does dim amheuaeth fod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu toriadau llym am y dyfodol rhagweladwy. Mae’r penderfyniad i sefydlu Campws Dysgu ar gyfer disgyblion 3-19 oed yn gyfle i sicrhau buddsoddiad o £10.27 miliwn yn Y Bala. Er y cyd-destun ariannol hynod heriol sy’n wynebu’r Cyngor bydd hyn yn fodd i warchod addysg a gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal.”
Llun: Y Cynghorydd Gareth Thomas