Mwy o Newyddion
Ymgeisiwch nawr am Ysgoloriaethau i Awduron 2016
Mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros hybu a datblygu llenyddiaeth, wedi cyhoeddi bod y rownd nesaf o Ysgoloriaethau i Awduron ar agor i dderbyn ceisiadau.
Mae’r Ysgoloriaethau, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn galluogi awduron o bob genre a chefndir i neilltuo amser ar gyfer ysgrifennu creadigol. Ers 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan gefnogi 272 o awduron, ac o ganlyniad cynhyrchwyd 102 o lyfrau ac 13 o erthyglau.
Cafodd nifer o awduron a dderbyniodd Ysgoloriaethau yn y gorffennol lwyddiannau nodedig. Daeth rhai o’r nofelau i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, sef Tair Rheol Anrhefn (Y Lolfa) gan Daniel Davies ac Afallon (Y Lolfa) gan Robat Gruffudd. Yn ogystal enillodd Tony Bianchi, Fflur Dafydd a Lleucu Roberts ill tri Y Fedal Ryddiaith am eu cyfrolau, sef Pryfeta (Y Lolfa) , Atyniad (Y Lolfa) a Saith Oes Efa (Y Lolfa). Enillodd Gwyneth Lewis Goron Eisteddfod Genedlaethol 2012 am ei chadwyn o gerddi ar thema “Ynys.”
Mae Ysgoloriaethau i Awduron 2016 ar agor i geisiadau gan awduron newydd ac awduron cyhoeddedig. Gall awduron ymgeisio am Ysgoloriaeth Awdur Newydd, Ysgoloriaeth Awdur Cyhoeddedig neu Ysgoloriaeth Cefnogi. Ceir Ysgoloriaethau Cefnogi ar gyfer awduron â phroblemau symudedd neu anableddau, er mwyn cynorthwyo gyda chyfarpar a chymorth arbennig.
Yn ogystal, mae’r Gwasanaeth Mentora i Awduron yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron, trwy sesiynau wyneb-yn-wyneb gydag awduron proffesiynol, er mwyn datblygu gwaith penodol sydd ar y gweill i safon cyhoeddi.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cefnogi’r awdur ar bob cam o’i yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru. Mae Ysgoloriaethau i Awduron a’r Cynllun Mentora yn rhan hanfodol o sicrhau datblygiad ac arbrofi o fewn y maes ysgrifennu creadigol. Rydym yn ymfalchïo y caiff Ysgoloriaethau 2015 a’r Gwasanaeth Mentora eu cefnogi’n hael gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru eleni eto. Bydd yr Ysgoloriaethau i Awduron yn rhoi cyfle i awduron newydd, yn ogystal ag awduron profiadol, i gynhyrchu gwaith llenyddol newydd o’r radd flaenaf, ac yn profi bod talentau llenyddol o Gymru yn serennu.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Ysgoloriaethau 2016 a Mentora 2016 yw 5.00 pm Ddydd Gwener 23 Hydref 2015.
Mae’r canllawiau a ffurflenni cais 2016 ar gyfer Ysgoloriaethau a Mentora ar gael i’w lawrlwytho o wefan Llenyddiaeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org / 029 2047 2266.
Llun: Lleucu Siencyn