Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Medi 2015

Galwad i ddatganoli pwerau Ystâd y Goron

Mae’r Cynghorydd Plaid Cymru dros Abersoch, Wyn Williams wedi galw ar ei gyd-gynghorwyr i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli pwerau Ystâd y Goron yng Nghymru i Lywodraeth Cymru

 Byddai modd i Gymru fanteisio ar yr incwm a godir ar diroedd ac arfordiroedd Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau yn ôl y Cynghorydd.

Ar hyn o bryd, mae Ystâd y Goron yn derbyn hawliau ariannol yng Nghymru dros bysgota, mwyngloddio, archwilio am nwy ac olew, ynni'r llanw a thonnau'r môr, ffermydd gwynt, aur ac arian, yn ogystal â’r holl ynni a'r adnoddau sydd o fewn dyfroedd a ffiniau tiriogaethol dynodedig Cymru.

Mae gwerth cyfalaf Ystâd y Goron drwy Brydain yn £11.5 biliwn, cynnydd o 16.1%. Mae’r Llywodraeth yn Llundain yn derbyn elw o £285 miliwn, cynnydd o 6.7%

“Mae’n debyg felly bod tua £42 miliwn wedi ei drosglwyddo i’r Goron yn ystod 2014/15. Dim ond un o dair ffynhonnell ariannol mae’r Ystâd yn ei dderbyn yw hwn,” meddai’r Cynghorydd Wyn Williams.

“Mae Cymru yn colli allan ar bob lefel. Briwsion o grantiau sy’n dod yn ôl i Gymru, ac mae’r Ystâd yn gwaedu’r system. Rydyn ni fel cyngor yn talu am hawliau harbwr ar arfordir Gwynedd, yna mae’r Harbwr lleol yn talu am hawliau ac wedyn eto mae unigolion sydd â chychod yn talu am yr un hawl i ddefnyddio gwely’r môr i angori dros yr haf. Felly, y gwir plaen yw bod Ystâd y Goron yn derbyn yr un taliad o dair ffynhonnell ariannol am yr un hawliau."

Yn ôl y Cynghorydd, mae’r Ystâd yn cynnwys lleoliadau fel Parc Windsor ac Ascot, Stryd Regent yn Llundain a Stad Glenlivet yn yr Alban. Yma yng Nghymru ceir Fferm Wynt Gwynt y Môr, y Marina yn Neganwy a Chonwy, Datblygiadau Morfa Abertawe, 3,238 o erwau o dir amaethyddol, 66,470 erwau o dir Comin, 245,000 erwau sydd â hawliau mwynderau arnynt a llawer iawn mwy.

“Mae’n hen bryd i’r grym am diroedd ac arfordiroedd Cymru ddod nôl i Gymru ac i Fae Caerdydd. Dwi’n falch iawn bod fy nghyd-gynghorwyr yng Ngwynedd wedi eilio fy nghynnig yng nghyfarfod o’r Cyngor llawn yn ddiweddar. Galwaf felly ar gynghorau eraill yng Nghymru i wneud yr un alwad, wrth i ni wynebu’r cynni ariannol pellach sydd ar ddod i bobl leol ledled Cymru.”

Yn hanesyddol mae Ystâd y Goron wedi bod yn rhan o weinyddiaeth Brydeinig ers canrifoedd lawer. Ond daeth newid dan y Ddeddf Sofren lle mae Y Goron yn derbyn 15% o unrhyw elw mae’r Ystad yn ei wneud yn ystod y flwyddyn.

Sefydlwyd Bwrdd yn Lloegr i oruchwylio’r gwaith, a’r Bwrdd hwn sydd hefyd yn gweinyddu dros Gymru. Mae gan Yr Alban eu Bwrdd eu hunain ac mae Adroddiad Smith 2014 yn argymell bod holl eiddo Ystâd y Goron yn yr Alban yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth yr Alban. Does dim gwrthwynebiad i hyn gan y swyddogion a chaiff ei drafod fel Mesur Seneddol eleni.

“Mae’n gwbl amlwg felly, bod modd rhannu’r gacen yn llawer tecach, a sicrhau bod arian a dynnir o Gymru yn dod nôl i mewn i Gymru,” meddai’r Cynghorydd Williams.

“Dwi’n ddiolchgar i Elfyn Llwyd y cyn Aelod Seneddol a Dafydd Wigley am eu gwaith yn archwilio’r sefyllfa a gweithredu ar ein rhan. Mae corff mor fawr a phwerus ariannog yn araf ledaenu yng Nghymru ‘the silent invasion’ dwi’n ofni. Bu cynnydd yng ngwerth eiddo'r Goron yng Nghymru o 15% ers 2014 sy’n profi'r pryder bod tir yn araf ddiflannu i’w dwylo - mae’n hen bryd rhoi stop arno.”

Rhannu |