Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Medi 2015

Leanne Wood yn ymateb i ganlyniad arweinyddiaeth Llafur

Gan ymateb i'r cyhoeddiad fod Jeremy Corbyn wedi cael ei ethol yn arweinydd ar y blaid Lafur, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru yn llongyfarch Jeremy Corbyn ar gael ei ethol.

“Rydym yn gobeithio y bydd e nawr yn gwneud i’w ASau ymuno ag ASau Plaid Cymru yn gwrthwynebu polisïau Torïaidd sydd yn achosi niwed anferth i bobl yng Nghymru a thu hwnt.

“Ond ni all ei ethol wneud dim i newid record ofnadwy Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru.

“Ers datganoli maen nhw wedi dod i gael eu hadnabod am eu methiant a’r ffordd maen nhw’n llywodraethu dros ddirywiad.

“Maen nhw wedi cymryd pobl yn ganiataol  ac mae’n rhaid cael gwared ohonynt wedi etholiad fis Mai.

“Mae Plaid Cymru yn barod gyda rhaglen lywodraethol gref a blaengar er mwyn darparu arweinyddiaeth newydd, fedrus.”

Rhannu |