Mwy o Newyddion
Beirniadu cynlluniau llym ar gyfer hawliau gweithwyr
Heddiw, bydd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn defnyddio dadl yn Senedd San Steffan ar y Mesur Undebau Llafur i rybuddio yn erbyn cynlluniau 'llym' y Torïaid ar gyfer hawliau gweithwyr, a galw am Gomisiwn Brenhinol i archwilio problemau sy'n wynebu pobl mewn gwaith.
Bydd Jonathan Edwards AS, mab stiward Undeb Llafur sydd bellach wedi ymddeol, yn nodi gwrthwynebiad chwyrn Plaid Cymru i'r Mesur, a phwysleisio rôl hanfodol y mudiad Undebau Llafur yn diwygio amodau economaidd-gymdeithasol ar gyfer gweithwyr.
Mae disgwyl i Mr Edwards ddweud: "Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r mesur Undebau Llafur yn chwyrn.
"Mae'r mudiad Undebau Llafur wedi chwarae rôl hanfodol yn diwygio amodau economaidd-gymdeithasol ar gyfer gweithwyr.
"Yn hytrach na cheisio cyflwyno mesurau llym pellach gyda'r amcan o gyfyngu ar weithgarwch Undebau Llafur, dylai'r Llywodraeth fabwysiadu cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu Comisiwn Brenhinol ar Gysylltiadau Diwydiannol a Hawliau Gweithwyr.
"Byddai hwn yn archwilio pa rôl ddylai Undebau Llafur ei chwarae mewn economi gyfoes a'r sialensiau sy'n wynebu gweithwyr, megis cytundebau dim-oriau, cyflogau isel a hawliau yn y gweithle.
"Mae Plaid Cymru hefyd yn pryderu am amcanion y Mesur i'w gwneud hi'n anoddach i weithredu'n ddiwydiannol drwy orfodi Undebau i roi rhag-hysbysiad cyn streicio; cyflwyno trothwy uwch ar gyfer pleidleisiau streic llwyddiannus; cyfyngu ar yr hawliau i bicedu a galluogi cyflogwyr i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth.
"Yn barod mae gan y DG rai o'r cyfreithiau Undebau Llafur mwyaf llym yn y byd ac mae hi'n drueni mai un o flaenoriaethau buan y llywodraeth Geidwadol newydd yw i gyflwyno Mesur arall ar frys.
"Dylai mesurau o'r fath wneud i unigolion a gwleidyddion blaengar yng Nghymru ystyried a ddylai cyfrifoldeb dros y materion hyn gael eu datganoli i Gymru yn hytrach na'i dal yma yn San Steffan."