Mwy o Newyddion
Prifysgol Abertawe i groesawu Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016
Mae'r datganiad gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain y cynhelir Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016 ym Mhrifysgol Abertawe, rhwng 6 a 9 Medi’r flwyddyn nesaf, wedi cael croeso cynnes gan y Brifysgol. Mae'r digwyddiad pedwar diwrnod ymysg gwyliau gwyddoniaeth pwysicaf a mwyaf hirsefydlog Ewrop.
Meddai'r Athro Richard B. Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn bod Gŵyl Wyddoniaeth Prydain wedi dewis Abertawe i gynnal ei dathliad bywiog o wyddoniaeth, technoleg a pheirianneg. Mae Prifysgol Abertawe yn ysgogi twf yn yr economi wybodaeth, a bydd cynnal yr ŵyl eiconig hon yn gyfle gwych i ddathlu pŵer gwyddoniaeth i weddnewid cymdeithas a'r economi.
“Mae Prifysgol Abertawe ar i fyny, heb os, ac mae'n cael ei chydnabod fel un o 30 sefydliad ymchwil gorau'r DU yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014). Bydd y brifysgol yn agor ei champws gwyddoniaeth ac arloesi ysblennydd gwerth £450m yn ddiweddarach y mis hwn, sef Campws Gwyddoniaeth y Bae, a fydd yn ein cefnogi i ehangu ein cydweithredu â diwydiant a sefydliadau ymchwil blaenllaw ledled y byd. Rydym wrth ein boddau bod Gŵyl Wyddoniaeth Prydain wedi cydnabod y llwyddiant hwn a'i bod wedi dewis dod i Abertawe yn 2016."
Meddai Ivvet Modinou, Pennaeth Ymgysylltu Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain: "Rydym yn falch iawn bod yr Ŵyl yn dychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf ers 1990. Mae gan Brifysgol Abertawe Golegau Gwyddoniaeth a Pheirianneg cryf iawn, yn ogystal ag Ysgol Feddygaeth; roedd perfformiad y Brifysgol yn REF 2014 yn rhagorol, felly rydym yn edrych ymlaen at archwilio'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud yno.
"Ar ben hyn, mae campws cyffrous newydd yn cael ei ddatblygu ac mae'r Brifysgol ger y traeth, a fydd yn ychwanegu elfen newydd at y rhaglen ac yn creu naws Gŵyl."
Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016 yn canolbwyntio ar gynulleidfa o oedolion nad ydynt yn arbenigwyr ond sydd â diddordeb eang mewn gwyddoniaeth. Bydd 100 o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu'n arbennig gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd academyddion o fri rhyngwladol, o Brifysgol Abertawe a sefydliadau a chymdeithasau eraill ledled y DU, yn cyflwyno ac yn trafod gwyddoniaeth arloesol (o amrywiaeth o feysydd gwyddonol, gan gynnwys technoleg, peirianneg a'r gwyddorau cymdeithasol) mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, o sgyrsiau i berfformiadau.
Cynhelir gŵyl ymylol ar gyfer teuluoedd a chynulleidfaoedd cymunedol ar y penwythnos (10, 11 Medi), wedi'i chydlynu gan y Brifysgol, Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain a phartneriaid lleol ar draws y ddinas.
Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf ym 1831 (fel cyfarfod cyntaf, ac wedyn cyfarfod blynyddol, y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth) ac mae wedi gweld nifer o olygfeydd eiconig mewn hanes, megis y drafodaeth enwog rhwng Thomas Huxley ac Esgob Rhydychen ar ddamcaniaeth ddadleuol Darwin ynghylch esblygiad ym 1860. Yn ogystal, defnyddiwyd y term 'gwyddonydd' am y tro cyntaf yn un o'r cyfarfodydd ym 1834. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol bedair gwaith yn Abertawe o'r blaen: 1848; 1880; 1971 a 1990. 2016 fydd y tro cyntaf i'r ddinas groesawu'r Ŵyl ar ei ffurf gyfredol.
Cynhelir Gŵyl Wyddoniaeth Prydain 2016 ym Mhrifysgol Abertawe rhwng dydd Mawrth 6 a dydd Gwener 9 Medi a chynhelir Rhaglen Ymylol yr Ŵyl dydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Medi, gan gynnwys rhaglen amrywiol o sgyrsiau, trafodaethau, perfformiadau a gweithgareddau.