Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Medi 2015

Ewch i gael prawf llygaid - neges Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid

Edrychwch ar ôl eich llygaid gan fynd i gael prawf golwg rheolaidd fydd prif neges Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid eleni (21-27 Medi 2015).

Nawr yn ei chweched blwyddyn, mae Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid yn dod â sefydliadau a gweithwyr proffesiynol iechyd ledled Cymru at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o'r angen i gael profion golwg rheolaidd, a sut gall arferion byw effeithio ar olwg.

Gall prawf golwg rheolaidd helpu i ganfod cyflyrau llygaid cyn iddynt effeithio ar olwg. Gall hefyd adnabod cyflyrau iechyd fel clefyd siwgr a phwysedd gwaed uchel. Dylai'r rhan fwyaf o bobl gael prawf llygaid gan optometrydd bob dwy flynedd - er efallai y bydd angen profion amlach yn dibynnu ar oedran, teulu neu hanes meddygol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething AC: “Y peth pwysicaf y gall pobl ei wneud er mwyn gofalu am eu llygaid yw cael profion golwg rheolaidd. Mae'r GIG yng Nghymru yn darparu profion llygaid am ddim i bobl sydd eu hangen fwyaf mewn optegydd lleol. Ni fydd angen i chi gofrestru, yn aml ni fydd angen apwyntiad arnoch ac mae llawer o optegwyr ar agor ar ddydd Sadwrn.”

Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru a Chadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid: “Bob dydd yng Nghymru mae bron i dri pherson yn colli eu golwg ond gellir osgoi 50% o achosion o golli golwg drwy ganfod y broblem a'i thrin yn gynnar. Y peth pwysicaf y gall pobl ei wneud er mwyn gofalu am eu llygaid yw cael profion golwg rheolaidd.

“Dengys gwaith ymchwil bod un o bob 10 ohonom erioed wedi cael prawf llygaid. Y golwg yw'r synnwyr y mae gan y rhan fwyaf o bobl ofn ei golli ac eto dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r ffordd orau o edrych ar ôl ein llygaid. Rydym eisiau newid hynny.

“Mae llawer o bobl yn credu mai dim ond i weld a oes angen gwirio eich golwg gyda sbectol neu lensys cyffwrdd y cynhelir prawf golwg. Ond mae yna sawl rheswm pwysig arall dros gael prawf golwg. Gall cael prawf golwg rheolaidd helpu i ganfod cyflyrau llygaid cyn i chi sylwi ar unrhyw effaith ar eich golwg, gan gynnwys cyflyrau iechyd megis clefyd siwgr a phwysedd gwaed uchel.

“Mae profion llygaid y GIG am ddim i bobl 60+ oed, i blant, i bobl sy'n derbyn budd-daliadau yn gysylltiedig ag incwm, a phobl sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd y llygaid oherwydd hanes teuluol.

“Dylai cael prawf golwg gydag optometrydd o leiaf unwaith bob dwy flynedd fod yn rhan o arfer gofal iechyd pawb.

“Felly yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid - edrychwch ar ôl eich llygaid a gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu prawf llygaid i chi a'ch teulu.” 

Rhannu |