Mwy o Newyddion
Cwmni gofal sy’n hoff o’r celfyddydau’n dod i achub gŵyl
Mae cwmni gofal sy’n hoff o’r celfyddydau wedi helpu i achub gŵyl gerdd bwysig ar ôl i’r ŵyl gael ei gadael mewn trafferthion wrth fethu cael arian am docynnau oedd wedi eu gwerthu.
Mae Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn parhau i aros am £13,000 sy’n ddyledus iddi gan Sinema a Chanolfan Gelfyddydau'r Scala, Prestatyn, oedd yn rhedeg y swyddfa docynnau i’r ŵyl y flwyddyn ddiwethaf.
Caeodd y ganolfan honno ym mis Ionawr oherwydd trafferthion ariannol – ers hynny mae wedi ailagor dan reolwyr newydd – ond mae diffyg mawr yn arian yr ŵyl ac roedd amheuon am ei dyfodol.
Roedd Mario a Gill Kreft, perchnogion sefydliad gofal Parc Pendine, yn ddig ar ôl iddynt glywed bod yr ŵyl boblogaidd hon wedi cael ei thrin mor wael.
Maen nhw wedi bod yn gefnogol ers amser hir i’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, ac mi wnaethon nhw benderfynu gynyddu eu cyfraniad er mwyn sicrhau bod digwyddiad eleni’n gallu mynd ymlaen.
Mae’r trefnwyr wedi disgrifio Parc Pendine a’r cefnogwyr eraill sydd wedi dod i’r adwy i helpu’r achos fel "arwyr go iawn i’r ŵyl"
O ganlyniad i hyn, yn ôl y cyfarwyddwr artistig Ann Atkinson, mae gŵyl eleni yn argoeli i fod yr un orau erioed. Mae’r ŵyl hefyd yn cael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Un o’r prif ddigwyddiadau eleni fydd perfformiad rhyngwladol cyntaf darn o gerddoriaeth newydd gan Hannah Stone, sy’n hynod dalentog ac wedi bod yn delynores frenhinol.
Bydd rhaglen eleni hefyd yn cynnwys y pianydd Siapaneaidd Noriko Ogawa, y gitarydd o Awstralia Craig Ogden, ensemble lleisiol Stile Antico a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Mae Parc Pendine yn rhedeg saith o gartrefi gofal, cwmni gofal cartref a sefydliad hyfforddi mewnol, gan gyflogi dros 600 o bobl yn ardal Wrecsam. Mae wedi bod yn arloesol wrth ddefnyddio’r celfyddydau, a Parc Pendine oedd y corff gofal cyntaf yng Nghymru i benodi artist preswyl.
Mae’r sefydliad wedi bod yn cydweithio gyda’r ŵyl ers cryn amser, a hefyd gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, cerddorfa Hallé ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn gynharach eleni, cafodd Pendine ei enwi’n Fusnes y Flwyddyn gan Gelfyddydau a Busnes Cymru.
Mae cwmni Pendine yn dathlu ei 30 mlwyddiant eleni ac yn yr hydref bydd yn agor canolfan ragoriaeth £7 miliwn newydd ar gyfer gofal dementia, sef Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon, lle bydd yn creu 100 o swyddi newydd.
Dywedodd Mario Kreft MBE: "Roedd beth ddigwyddodd i’r ŵyl yn annifyr iawn ac roeddem yn ofni’n fawr y gallai beryglu’r holl ddigwyddiad.
“Rydym yn caru traddodiad yr ŵyl, sy’n rhan bwysig iawn o’n bywyd diwylliannol ni yng ngogledd Cymru, ac mae’n gweddu’n dda iawn gyda’r hyn rydym yn ei wneud yn Parc Pendine o ran hyrwyddo’r celfyddydau trwy ein rhaglen gyfoethogi.
“Mae’n bwysig bod yr ŵyl yn gallu mynd ymlaen a llwyddo am 40 mlynedd arall, ac rwy’n credu bod y perygl y gallai hynny beidio digwydd oherwydd trafferth gyda’r swyddfa docynnau y llynedd yn gwbl annerbyniol i mi, felly roedd rhaid i ni wneud rhywbeth amdano.
“Mae’r ŵyl yn ased hanfodol i’r gymuned, yn dod â sêr gwych i’r ardal, felly roedd yn ddychryn y gallai gael ei pheryglu fel hyn.
“Eleni rydym ni am adeiladu ar y gwaith cymunedol rydym ni wedi einoddi'r flwyddyn ddiwethaf, er mwyn helpu’r cyfleoedd i estyn allan at bobl.
“Rydym hefyd yn hynod falch o fedru noddi’r noson agoriadol gyda’r berfformwraig wych Hannah Stone, fydd yn perfformio gwaith gan Gareth Glyn sydd wedi ei gomisiynu’n arbennig ac rydym yn falch iawn o weld hynny’n digwydd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.”
Dywedodd Ann Atkinson: "Mae Parc Pendine wedi mynd ymhell tu hwnt i beth oedd yn ofynnol iddynt.
"Maen nhw wedi ein cefnogi ni am lawer o flynyddoedd erbyn hyn, yn bendant y nhw yw un o’n prif noddwyr ni eleni a heb y gefnogaeth wirioneddol werthfawr yma ni fyddem yn gallu bod mor optimistaidd ag yr ydym ni rŵan.
"Rwy’n credu ei bod hi’n wych bod Mario a Gill wedi bod mor graff â sylweddoli maint y trafferthion yr oeddem yn eu hwynebu a bod angen cefnogaeth arnom. Maen nhw wedi rhoi’r gefnogaeth yna mewn ffordd ariannol a hefyd fel cyfeillion pan roeddem ni wir angen hynny.
“Mae Mario a Gill yn gwpl sy’n teithio’n helaeth ac yn clywed cerddoriaeth o’r ansawdd uchaf a’r opera gorau yn y byd. Oherwydd hynny, mae cael eu cefnogaeth nhw fel pobl a chanddynt gymaint o chwaeth hefyd yn beth gwych.
"Rydym yn ffodus iawn bod llawer wedi dod i’r adwy i’n helpu eleni ac rydym yn ddiolchgar i bob un ohonynt. Nhw yw arwyr gwirioneddol yr ŵyl.”
"Mae pethau’n edrych yn well erbyn hyn. Mae’r gwerthiant tocynnau yn uwch o’i gymharu â sut oedd pethau'r flwyddyn ddiwethaf ac, er bod cryn dipyn o ffordd i fynd eto, mae gennym bob rheswm i fod yn obeithiol am y dyfodol."
I gael gwybod mwy am Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru ac er mwyn archebu tocynnau ar-lein ewch i www.nwimf.com neu ffonio swyddfa docynnau’r ŵyl yn Clwyd Theatr Cymru ar 01352 701521
Llun: Mario a Gill Kreft gyda Ann Atkinson (canol)