Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Medi 2015

Comisiynydd Heddlu yn anrhydeddu arwyr diymhongar

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymr uyn gofyn am gymorth y cyhoedd i anrhydeddu’r bobl hynny yn ein cymunedau sy’n helpu i leihau trosedd heb ddisgwyl unrhyw glod na chydnabyddiaeth.

Mae Winston Roddick CB QC wedi lansio ei rownd ddiweddaraf o Wobrau Cymunedol er mwyn cydnabod y bobl a’r grwpiau hynny sy’n helpu’r heddlu i gadw ein cymdogaethau’n llefydd heddychlon a diogel i fyw ac sydd hefyd yn helpu i adsefydlu troseddwyr yn y gymuned.

Dros y mis nesaf felly mae’r Comisiynydd yn gwahodd y cyhoedd i anfon eu henwebiadau eu hunain ato ar gyfer Gwobr y Bobl, sef un o’r gwobrau uchaf eu bri a fydd yn cael eu cyflwyno ganddo.

Nod y wobr hon yw amlygu ac anrhydeddu unigolyn neu grŵp cymunedol sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol tuag at ddiogelwch cymunedol ac atal trosedd a hon yw’r unig wobr y gall y cyhoedd enwebu’n uniongyrchol ar ei chyfer.

Hon fydd yr ail flwyddyn i’r Comisiynydd, Mr Roddick, gyflwyno’r gwobrau a dywedodd y cafodd ei ysbrydoli i wneud hynny gan enillydd Gwobr y Bobl y llynedd, sef Deana Fisher a sefydlodd  brosiect TCC arloesol yn y Bermo.

Meddai’r Comisiynydd: “Mi es i draw i’r Bermo gyda chriw o swyddogion heddlu a phobl eraill i weld y system TCC ar waith ac rydw i’n cofio cynghorydd lleol yn dweud wrtha’ i wrth sôn am Deana:  ‘Mae’r ddynes yna’n haeddu medal’ .

“Y geiriau hynny a’m hysbrydolodd i ddatgan bod yn rhaid rhoi cydnabyddiaeth i’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan bobl fel Deana.”

Ychwanegodd Mr Roddick - sydd wedi gweithio fel swyddog heddlu, bargyfreithiwr a barnwr yn ystod ei yrfa - y bydd Gwobr y Bobl  “…yn mynd i grŵp neu unigolyn sydd wedi gwneud argraff amlwg o ran cadw pobl yn ddiogel ac/neu leihau trosedd’

“Gall y cyfraniad hwn fod wedi dylanwadu ar ardal gyfan, tref leol, cymdogaeth neu hyd yn oed stryd, ond bydd wedi gwneud gwahaniaeth i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yno.

“Gallai fod yn rhywun sy’n gweithio er mwyn dod â chymunedau at ei gilydd i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n rhywun sy’n gweithio’n uniongyrchol efo pobl i atal a lleihau troseddu.

“Tra byddaf yn dethol enillwyr mwyafrif y gwobrau fy hun mewn ymgynghoriad a’m swyddfa, mae Gwobr y Bobl yn arbennig gan mai hon yw’r unig un y bydd y cyhoedd yn enwebu’n uniongyrchol ar ei chyfer.

“Rwyf felly’n gofyn am gymorth pobl Gogledd Cymru i fy helpu i ddethol ymgeisydd addas ar gyfer y wobr hon.

“Os ydych chi’n gwybod am rywun yn eich cymuned sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i atal neu leihau trosedd,  i ddiogelu neu gefnogi aelodau o’r gymuned neu sydd wedi cyfrannu’n gyffredinol tuag at wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel i fyw a gweithio – da chi enwebwch nhw ar gyfer Gwobr y Bobl. 

“Rwy’n credu mai fi oedd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd cyntaf yng Nghymru a Lloegr i sefydlu gwobrau o’r fath, felly mae Heddlu Gogledd Cymru wirioneddol wedi torri cwys newydd gyda’r fenter hon.

“Roedd seremoni’r llynedd yn llwyddiant ysgubol a roddodd  gyfle i mi amlygu ymdrechion clodwiw nifer o bobl arbennig dros ben - dyma pam y penderfynais ddyfarnu gwobrau cymunedol unwaith eto yn 2015.”

Roedd enillydd Gwobr y Bobl y llynedd, Deana Fisher, yn rhan allweddol o sefydliad a gweithrediad Prosiect TCC Gwarchod y Bermo .

Mae Deana wedi bod yn aelod gweithgar o’i chymuned ers blynyddoedd a bu’n gynghorydd tref am sawl blwyddyn.  

Mae Deana yn gwirfoddoli ei hamser i’r prosiect  yn rheolaidd ac mae hi bob amser yn barod iawn i fonitro/adolygu’r system  er mwyn cadw’r Bermo’n ddiogel.

Mae’r gwasanaeth TCC yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr brwdfrydig fel Deana i weithredu’n effeithiol ac mae tystiolaeth amlwg bod troseddu yn yr ardal wedi gostwng o ganlyniad i’w gwaith gyda’r prosiect.

Meddai aelod o’r cyhoedd a enwebodd Deana y llynedd: “Mae hi bron ar ei phen ei hun wedi trawsnewid ein tref fach ni i fod yn lle sydd, mae’n debyg, yn un o’r mannau mwyaf diogel i fyw yng Ngogledd Cymru.”

Mae ffurflenni enwebu ar gael ar wefan y CHTh.  Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw hanner nos, dydd Gwener 25 Medi, 2015.  Bydd enillydd Gwobr y Bobl a gwobrau cymunedol eraill y CHTh yn derbyn eu gwobrau o flaen arweinwyr yr heddlu ac arweinwyr dinesig mewn cyflwyniad Dydd Iau, 22 Hydref 2015.

 

I enwebu eich dewis chi ar gyfer Gwobr y Bobl, llenwch y ffurflen ar-lein www.northwales-pcc.gov.uk/cy/Newyddion/Archif-Newyddion/2015/Community-Awards-2015.aspx neu fel arall gallwch lawrlwytho’r ffurflen, ei llenwi a’i hanfon yn ôl i Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Glan-y-Don, Bae Colwyn LL29 8AW neu drwy e-bost at  opcc@nthwales.pnn.police.uk

Rhannu |