Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Awst 2015

Arteffactau o’r Oesoedd Canol a ddarganfuwyd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro’n cael eu datgan yn drysorau

Mae modrwyau aur ac arian y credir eu bod yn dyddio o’r Oesoedd Canol (5ed i’r 15fed ganrif) a’r cyfnod modern cynnar (16eg ganrif) wedi cael eu datgan yn drysorau heddiw gan Grwner E. M. Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Cafodd modrwy o’r 15fed neu’r 16eg ganrif ei darganfod ar 11 Mawrth 2014 yn Hwlffordd, Sir Benfro, gan Mr Alun Jones wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel. Mae gan y sêl-fodrwy arian flaen crwn, gyda dyfais wedi’i engrafu yn y canol ar ffurf arwyddnod masnachwr. Mae croes heb ben wedi’i engrafu ar un o’r ysgwyddau. Câi’r math hwn o groes ei gysylltu â Sant Antwn, ac mae’n bosibl ei bod yn awgrymu cysylltiad â’r ysbytai fyddai’n trin yr afiechyd gâi ei alw’n Dân Sant Antwn, neu ignis sacer. 

Cafodd modrwy eurwaith arian grefyddol o ddiwedd y 15fed ganrif ei darganfod ar 12 Hydref 2013 gan Mr Phil Jenkins yng Nghaeriw, Sir Benfro. Mae gan y fodrwy flaen rhychog, gyda thri gair wedi’i engrafu, un ar bob ffased: ihs (rhwng brigau syml) ave maria (mewn llythrennau gothig).

Cafodd modrwy aur o’r cyfnod modern cynnar ei darganfod gan Mr K. Lunn ar 28 Tachwedd 2013 wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel yn Hundleton, Sir Benfro. Modrwy alar ydyw, gyda phenglog arddulliedig ar y tu allan. Mae’r tu mewn yn fflat a’r tu allan yn grwm, a’r cylch braidd yn ddi-siâp. Wedi’i ysgrifio ar y tu mewn mae ‘A. E. obijt 30 Jan 17034’, mewn llythrennau italaidd (bu farw A. E. 30 Ionawr 1703/4).

Mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio caffael y darganfyddiadau hyn.

Cafodd modrwy alar aur o’r cyfnod modern cynnar ei darganfod yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, gan Mr D. Raven wrth iddo ddefnyddio datgelydd metel ym mis Mai 2013. Mae gan y fodrwy benglog arddulliedig ar y tu allan, sydd ag arwyneb crwm. Wedi’i ysgrifio ar y tu mewn, sy’n fflat, mae ‘J. A. ob 25 July 98 aeta 37’, mewn llythrennau italaidd (bu farw J. A. 25 Gorffennaf ..98 yn 37 oed).

Bydd Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn caffael y fodrwy hon.

Dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil, Adran Hanes ac Archaeoleg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: “Mae’r darganfyddiadau hyn yn cynnig gwybodaeth newydd am addurniadau personol o wahanol gyfnodau yng Nghymru.

“Mae’r sêl fodrwy gyda chroes heb ben yn dod o’r un cyfnod â modrwyau eraill gyda’r un symbol, sy’n cyd-fynd â phoblogrwydd Sant Antwn yng Nghymru a Lloegr y 15fed a’r 16eg ganrif.

“Mae’r fodrwy 15fed ganrif o Gaerhiw yn enghraifft dda o deyrngarwch personol ar fodrwy bys.

“Mae’r penglogau ar y modrwyau o Hundleton a Chydweli yn fotiff sydd i’w weld ar y modrwyau galar cynharaf, yn dyddio o’r 15fed ganrif, ac yn parhau’n boblogaidd tan y 17eg ganrif. Gan mai modrwyon coffa ydynt, maent yn fwy diweddar na dyddiadau’r marwolaethau, ond mae’n debyg eu bod wedi’u hengrafu o fewn cyfnod byr.”

Rhannu |