Mwy o Newyddion
Darlledu hanner marathon Caerdydd yn fyw am y tro cyntaf
Mae BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi y bydd yn dangos Hanner Marathon Caerdydd Banc Lloyds ar y teledu yn fyw am y tro cyntaf ddydd Sul, 4 Hydref, gan gyflwyno darpariaeth fyw ac uchafbwyntiau o ddigwyddiadau'r diwrnod, gan ychwanegu at y ddarpariaeth fyw sydd eisoes yn yr arfaeth ar gyfer BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Ar-lein.
Dyma drydedd flwyddyn ar ddeg Hanner Marathon Caerdydd, ac erbyn hyn mae'n un o rasys ffordd mwyaf a gorau'r DU. Jason Mohammad fydd yn cyflwyno, gyda Lowri Morgan a Dot Davies yn rhoi adroddiadau o wahanol leoliadau ar y cwrs, sy'n cychwyn ac yn gorffen yn y Ganolfan Ddinesig, ac yn mynd mor bell â Bae Caerdydd a Llyn Parc y Rhath. Bydd y marathon yn cael ei ddangos yn fyw ar BBC Two Wales rhwng 8.30 a 11.15am, gyda'r uchafbwyntiau yn cael eu dangos fin nos o 6.00pm.
Bydd BBC Cymru Wales yn dangos yr holl fwrlwm o ddigwyddiad eleni, gan ddilyn rhyw 21,000 o redwyr, sy'n cynnwys rhedwyr elît, rhedwyr clwb ac, wrth gwrs, y rhedwyr hwyl. Mae'r digwyddiad, a drefnir gan Rhedeg Cymru, yn gyfle perffaith i ddangos Caerdydd ar ei gorau, ac yn rhagflaenydd perffaith i Hanner Marathon y Byd yr IAAF, a fydd yn cael ei gynnal ar yr un cwrs o gwmpas canol y ddinas ddydd Sadwrn Mawrth 26, 2016.
Yn ogystal â'r rhaglen deledu fyw, bydd BBC Radio Wales yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar y ras i redwyr Elît. Steffan Garrero fydd yn cyflwyno ar Radio Wales ar y diwrnod, gyda Rob Phillips yn rhoi sylwebaeth ar y ras elît. Bydd sawl gohebydd o gwmpas y cwrs yn ychwanegu lliw at yr arlwy. Mae'r orsaf eisoes wedi dechrau ar y trefniadau ar gyfer y marathon gyda ‘Jason Mohammad’s Running Club’ sy'n dilyn llond llaw o redwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Mae'n rhoi sylw i gymysgedd o redwyr profiadol, dechreuwyr a'r rheini sy'n gobeithio gwella'u perfformiad, a byddant yn cael cyngor gan Steve Brace, un o redwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, sydd hefyd yn gyfarwyddwr yr hanner marathon.
Bydd BBC Radio Cymru hefyd yn ei chanol hi, gan ddarlledu'n fyw gydol y bore o'r ras, gyda gohebwyr ar y cwrs, cyfweliadau gyda chyfranogwyr, sgyrsiau a cherddoriaeth.
Mae Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru Wales, Geoff Williams, wrth ei fodd yn cyhoeddi'r newyddion ac meddai "Mae BBC Cymru Wales yn falch iawn o fod yn darlledu Hanner Marathon Caerdydd ar y teledu am y tro cyntaf. Gydol ein rhaglen fyw ar BBC Two Wales yn ystod y ras a'r uchafbwyntiau yn ddiweddarach y noson honno, yn ogystal â'n darpariaeth fyw ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales a'n gwasanaethau digidol, byddwn yn cyflwyno i'n cynulleidfaoedd holl weithgarwch, cyffro, hwyl a lliw yr achlysur. Mae'n addo bod yn ddiwrnod i'w gofio."
Bydd y sylw i Hanner Marathon BBC Cymru Wales yn rhan o'r tymor Live Longer Wales sy'n dychwelyd i'n sgriniau; y tymor o raglenni iechyd a ffitrwydd i ysbrydoli newid ar y teledu, ar y radio ac ar-lein. Un o uchafbwyntiau'r tymor fydd Gareth Thomas: Run for Your Life, sy'n dilyn 16 o fenywod o Deri wrth iddynt hyfforddi ar gyfer yr hanner marathon gyda'r arwr rygbi Gareth Thomas.
Gall cynulleidfaoedd ymuno yn y sgwrs am y marathon drwy ddefnyddio'r hashnod #BBCCardiffHalf a thrydar eu dymuniadau da i gyfranogwyr ar yr awyr.
Llun: Jason Mohammad