Mwy o Newyddion
Llwyfan fawr cyntaf i ddramodydd disglair
MAE drama newydd gan ddramodydd disglair o Ben Llŷn yn paratoi i ysgogi byd theatr Cymru.
Yr actorion Bryn Fôn a Gwenno Hodgkins fydd yn perfformio yn Drych, cynhyrchiad cyntaf Llyr Titus sydd yn seiliedig ar ddau gymeriad sy’n sgwrsio’n ddiwyd am ryfeddodau a chymhlethdodau bywyd.
Cwmni’r Frân Wen sy’n cyflwyno’r ddrama Gymraeg rymus newydd yma fydd i’w gweld ar lwyfannau theatrau ledled Cymru yn ystod mis Medi a Hydref.
Yn ôl y cyfarwyddwr Ffion Haf, mae Drych yn gofyn cwestiynau tywyllaf am fodolaeth dyn: “Drwy Drych cawn adlewyrchiad o daith dau sy’n ysu i ddeall mwy am eu bodolaeth drwy drafod y dwys a’r doniol, y materol a’r ysbrydol.”
Daeth Llyr, 22 oed o Sarn, i gyswllt a Chwmni’r Frân Wen drwy gynllun ysgrifennu newydd i bobl ifanc sy’n cael ei redeg yn flynyddol gan y cwmni.
“Bu Llyr yn gweithio gydag Aled Jones-Williams fel rhan o gynllun Sgript i Lwyfan sy’n adnabod a mentora dramodwyr ifanc. Roedd yr ymateb i’w waith mor syfrdanol roedd rhaid i ni ddatblygu ymhellach ac felly comisiynwyd drama lawn,” meddai Ffion.
“Mae’n bwysig ein bod yn rhoi llwyfan i’r lleisiau ifanc newydd cyffrous yma oherwydd nhw yw dyfodol theatr.”
Meddai Llyr, sydd yn fyfyriwr MA ym Mhrifysgol Bangor: “Roedd cael gweithio gydag Aled Jones-Williams yn eithriadol, roedd o’n brofiad buddiol nid yn unig o ran gallu trafod syniadau hefo rhywun profiadol ond hefyd i gael amser ac anogaeth i fynd ati i ’sgwennu.
“Ddaeth yr ysbrydoliaeth am Drych o le od iawn – y ddeialog ddaeth gyntaf nid y syniad, dim ond ar ôl mynd ati hefo’r ddeialog ddaeth y syniadau ehangach ac unrhyw themâu, tyfu o’r sgwrsio wnaeth pob dim.
“Mae hi’n stori am ddau o bobol mewn lle yn siarad, ac fel mae hi’n aml iawn mae petha’n codi i’r wyneb wrth wneud hynny – petha’ braf a phetha’ digon annifyr.”
Mae noson agoriadol Drych yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar 15 Medi (7.30pm).
* Am fanylion pellach a thocynnau www.franwen.com