Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Awst 2015

Protest toriadau’r Torïaid

‘Safwn Gyda’n Gilydd’, yw’r gri wrth i Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd wahodd trigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau, cwmnïau, undebau a grwpiau gwleidyddol o bob lliw at ei gilydd i Rali ‘Toriadau’r Torïaid – Safwn Gyda’n Gilydd.’

Pwrpas y Rali yw dangos cryfder teimlad a’r gwrthwynebiad dybryd sydd i’r toriadau ariannol sydd eto i ddod i wasanaethau cyhoeddus gan y blaid Dorïaidd yn San Steffan.

Ar Sgwâr Diffwys, Blaenau Ffestiniog dydd Sadwrn 19 o Fedi, bydd cyfle i bobl ddod ynghyd a dangos undod ei gwrthwynebiad i doriadau ariannol y Torïaid sy’n effeithio ar drigolion yng Ngwynedd a thu hwnt.

Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards fydd yn arwain yr anerchiadau yn y Rali gydag Arweinydd y Blaid yn genedlaethol, Leanne Wood, yn rhannu’r gwrthwynebiad Cymreig a’r pryder a deimlir gan drigolion ledled Cymru.

Margaret Thomas, Llywydd TUC Cymru, sef undeb y gweithwyr yng Nghymru, ac Ysgrifennydd Unsain yng Nghymru fydd yn cynnig gogwydd gweithlu Cymru i’r Rali.

Yn ôl Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Dyma gyfle i ni ddod ynghyd a dangos cryfder y teimladau sydd ar lawr gwlad i’r pwysau aruthrol sydd ar bob agwedd o fywyd cyhoeddus yng Ngwynedd a Chymru oherwydd y toriadau ariannol enfawr sydd eto i ddod.

“Yn ei gyllideb ddiweddar, cyhoeddodd y canghellor ei fwriadau, sef y bydd £20biliwn o doriadau i ddod eto yng ngwariant cyhoeddus yn ystod oes y Senedd. Mae hyn ar ben y miliynau o doriadau rydym eisoes wedi gorfod ei wynebu.

“Yma yng Ngwynedd mae’n hamcangyfrifon presennol yn rhagweld bwlch ariannol i’n gwasanaethau o tua £33miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae syniadaeth a pholisïau’r Torïaid i ddod â’r Deyrnas Gyfunol allan o’r twll du ariannol enfawr a grëwyd gan y bancwyr barus yn Llundain, yn faich anferthol ar bobl leol ac ar wasanaethau cyhoeddus.

“Mae’n hen bryd i bobl Gwynedd a thu hwnt gael y cyfle i ddatgan yn gyhoeddus eu siom yn llywodraethu haearnaidd y Torïaid yn Llundain sy’n rhoi pwysau aruthrol ar deuluoedd, yr henoed, ieuenctid ac eraill yng nghefn gwlad Cymru.

“Rydym fel cynghorwyr a chynghorau sir yn ceisio llywodraethu a gweinyddu cyfundrefn i drigolion gydag un llaw y tu ôl i’n cefnau. O fis Ebrill 2016, ni fydd unrhyw ffordd i ni yng Ngwynedd, osgoi toriadau gwirioneddol i wasanaethau. Rydym yn wynebu realiti o sicrhau toriadau o £9miliwn oherwydd penderfyniadau gwleidyddion Torïaidd yn Llundain sydd ymhell iawn o realiti bywyd yng nghefn gwlad Cymru.

“Rydym, fel arfer, yn brwydro’n galed dros ein trigolion, yn cydweithio i wneud y gorau dros bobl leol ac yn parhau i flaengynllunio ar gyfer y cyfnod heriol sydd o’n blaenau. Parhawn yn uchelgeisiol dros bobl Gwynedd gan roi o’n gorau i sicrhau ein bod yn llywodraethu’n gyfrifol ac yn synhwyrol.

“Estynwn wahoddiad felly i bobl ymuno â ni yn Sgwâr Diffwys, Blaenau Ffestiniog ar y 19 o Fedi i sefyll gyda ni a datgan ein siom yn gyhoeddus i’r llywodraeth ganolog Dorïaidd yn Llundain.”

Llun: Dyfed Edwards

Rhannu |