Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Awst 2015

Dyddiau ap-us i wiwerod coch

Mae pobl sy’n hoff o wiwerod coch wedi gwirioni gydag ap newydd sy’n helpu i achub y rhywogaeth.

Gofynnodd Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru i Livetech, arbenigwyr digidol yn Llandudno, greu Map Lleoli Gwiwerod i olrhain lleoliad y cnofilod coch, hoffus.

Gellir defnyddio’r ap ar yr iPhone, yr iPad a dyfeisiau android. Mae’n bosibl i bobl weld union leoliad y wiwerod coch cynhenid, oedd ar fin cael eu colli o Brydain cyn i ymdrech gadwraethol enfawr gael ei lansio ar Ynys Môn ddau ddegawd yn ôl.

Mae llwyddiant yr ymgyrch i’w briodoli’n bennaf i ymdrech enfawr i reoli’r gwiwerod llwyd ymledol, a gyflwynwyd i Brydain o America yn 1876 ac sy’n cario firws sy’n lladd y wiwer goch.

O ganlyniad, tyfodd nifer y gwiwerod llwyd i 2.5 miliwn tra bu gostyngiad yn niferoedd y wiwer goch, i 120,000.

Bellach dywed arbenigwyr fod niferoedd y wiwer goch gynhenid ar i fyny - ar Ynys Môn roedd y boblogaeth wedi gostwng i gyn lleied â 40, ond erbyn hyn mae 700 ohonynt ac maen nhw hyd yn oed yn croesi’r Fenai i Fangor ar y tir mawr.

Mae’r cynnydd hwn i’w briodoli i Brosiect y Wiwer Goch Ynys Môn ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru.

Yn ôl Paul Levy, rheolwr gyfarwyddwr Livetech: “Prif nodwedd yr ap yw helpu pobl i gofnodi unrhyw wiwerod a welir. Os gwelwch chi wiwer gallwch fewngofnodi i’r ap a’i gofnodi’n syth.

“Mae pobl yn gallu cysylltu ag Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, cael mynediad at wybodaeth, a’i rhannu.

“Gall pobl fewngofnodi i’r ap a darganfod ble mae’r gwiwerod coch. Mae’r ap ar gyfer iPhone a dyfeisiau android. Mae nodweddion eraill arno hefyd, e.e. gwybodaeth am waith cadwraeth yn gysylltiedig â’r wiwer goch, a ffrydiau newyddion. Hefyd mae wedi ei gysylltu â ffrwd twitter Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru.

“Mae’r ap yn canolbwyntio ar Ogledd Gorllewin Cymru, ond gellid ei gyflwyno’n hawdd i weddill y Deyrnas Unedig.

“Mae’r ap wedi ei integreiddio’n llawn â gwefan yr ymddiriedolaeth, sydd hefyd wedi ei dylunio gennym ni. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y mae angen i chi uwchlwytho’r wybodaeth i’r ap a bydd y wefan yn cael ei diweddaru.

“Yn Livetech rydym yn creu amrywiaeth eang o apiau ac roedd hwn yn bendant yn un diddorol i’w wneud.”

Esboniodd Dr Craig Shuttleworth, ecolegydd, a chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru pam ei fod wedi gofyn i Livetech greu Map Lleoli Gwiwerod:

Meddai: “Flynyddoedd yn ôl byddai pobl yn ysgrifennu atom i ddweud ble’r oedden nhw weld gweld gwiwer goch. Bellach rydym yn byw yn oes y cyfryngau cymdeithasol ac mae gan y rhan fwyaf o bobl ffonau clyfar.

“Mae'n ffordd arall i bobl gysylltu ac maen nhw’n gallu diweddaru’r ap yn syth. Mae’r ap y mae Livetech wedi ei ddylunio’n boblogaidd iawn. Mae wedi ei gysylltu â’n gwefan a hefyd mae gennym dudalen boblogaidd iawn ar Facebook.

“Mae’r data sy’n cael ei gasglu drwy’r ap yn ddefnyddiol iawn i ni oherwydd ei fod yn ein helpu i olrhain lleoliad y gwiwerodd coch. Rydym yn monitro dosbarthiad a niferoedd. 15 mlynedd yn ôl, prin fyddai unrhyw un yn gweld gwiwer goch ar yr ynys, ond bellach mae pobl yn eu gweld fwyfwy.

“Nid oes wiwerod llwyd ar Ynys Môn bellach. Dechreuodd y prosiect yn 1998 a sefydlwyd yr ymddiriedolaeth yn 2007. Pan ddechreuodd y prosiect dim ond tua 40 wiwer goch oedd ar yr ynys. Bellach mae dros 700 ohonynt.

“Mae rhai hyd yn oed wedi croesi i Wynedd hefyd. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant enfawr. Mae'n arloesol ac mae’r model yn cael ei efelychu dros y Deyrnas Unedig, mewn llefydd fel Cernyw.

“Byddai’r wiwer goch yn brin yng Ngogledd Cymru pe na fyddem wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch.

“I ddechrau roedd yn rhaid i ni gael gwared ar boblogaeth y wiwer lwyd ac yna roedd yn rhaid ailgyflwyno’r gwiwerod coch. Daeth y gwiwerod hynny o Sw Mynydd Bae Colwyn ac fe’u cyflwynwyd wyth gwaith i gyd.

“Bydd y prosiect mawr nesaf yng Ngwynedd lle byddwn yn cael gwared ar y gwiwerod llwyd ac unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi ei wneud byddwn yn cyflwyno’r rhai coch.

“Yn fuan bydd dyletswydd ar y Llywodraeth i ddiogelu’r wiwer goch o dan gyfraith yr UE.

“Mae wiwerod llwyd yn broblem oherwydd eu bod yn difetha coed – maen nhw’n rhwygo darnau mawr o’r rhisgl nes bod y coed yn marw.

"Mae’r difrod y maen nhw’n ei achosi’n cael effaith economaidd yn ogystal ag amgylcheddol gan ei fod yn costio miliynau o bunnoedd i’r diwydiant coed. Mae'n costio £10 miliwn bob blwyddyn. Hefyd maen nhw’n dringo i’r atig yn nhai pobl ac yn cnoi’r coed yno, felly mae’n broblem wirioneddol.

"Bellach, mae pethau’n edrych yn well i’n wiwerod coch ac mae’r ap newydd sydd wedi ei greu gan Livetech yn chwarae ei ran i greu dyfodol mwy llewyrchus iddynt."

Am fwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, ewch i www.redsquirrels.info ac am fwy o wybodaeth am Livetech ewch i www.livetech.co.uk neu ffoniwch 01492 581131.

 

Rhannu |