Mwy o Newyddion
Canfod trysor Llychlynnaidd ger Caernarfon
Heddiw, cyhoeddodd Crwner Gogledd Orllewin Cymru mai trysor yw’r celc o arian Llychlynnaidd sy’n cynnwys darnau arian ac ingotau. Cafwyd hyd i’r trysor yn Llandwrog ar 2 Mawrth 2015 gan Mr Walter Hanks a’i ddatgelydd metel.
Pennwyd mai 14 o geiniogau ydynt a fathwyd yn Nulyn yn ystod teyrnasiad Sihtric Anlafsson (989-1036), llywodraethwr Hiberno-Lychlynnaidd.
Mae wyth o’r darnau arian, gan gynnwys tri anghyflawn, yn dyddio o tua 995 OC. Mae’r chwe darn arian arall, gan gynnwys tri anghyflawn, yn dyddio o tua 1018 OC. Mae tair neu bedair ceiniog anghyflawn o oes Cnut, Brenin Lloegr (1016-35), hefyd yn rhan o’r celc, bob un ohonynt o’r bathdy yng Nghaer yn ôl pob tebyg.
Anaml iawn y daw darnau arian Sihtric i’r fei ar dir mawr Prydain. Tybir i’r celc gael ei adael (ei guddio neu ei golli) rhwng 1020 a 1030. Golyga hyn ei fod o tua’r un cyfnod â chelc Bryn Maelgwyn (Conwy) a gladdwyd ar ôl tua 1024. Roedd yn cynnwys 203 o ddarnau arian Cnut a dau o ddarnau arian Sihtric.
Yn ei adroddiad ar yr ingotau arian, dywedodd Dr Mark Redknap, Pennaeth Casgliadau ac Ymchwil Adran Hanes ac Archaeoleg Amgueddfa Cymru:
“Mae tri ingot cyflawn siâp bys ac un ingot metel siâp bys anghyflawn. Roedd marcio ymylon yr ingotau yn arfer hynafol er mwyn profi eu purdeb, sy’n dystiolaeth y cawsant eu defnyddio mewn trafodion masnachol cyn eu claddu.
“Mae’r rhan hon o’r celc at ei gilydd yn pwyso 115.09g, sef tua 90% o gyfanswm pwysau’r celc (127.77g). Mae hyn yn awgrymu mai storio arian oedd y prif ddiben.
Mae o leiaf pedwar celc a ddaeth i’r fei ar Ynys Manaw yn awgrymu fod barrau arian mewn defnydd yn economi’r Ynys rhwng y 1030au a’r 1060au, ac mae natur gymysg celc Llandwrog yn ei roi yn yr un categori.
O’r herwydd, mae’r celc yn cyfrannu at ddatblygu ein darlun o gyfoeth ac economi yn nheyrnas Gwynedd yr 11eg ganrif.”
Mae gan Amgueddfa Cymru, sydd â diddordeb mewn caffael y celc, saith amgueddfa ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.