Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Awst 2015

Llywodraeth Plaid Cymru am ymrwymo i gydraddoldeb yn y gweithle

Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi dweud y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio tuag at sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle a chau’r bwlch cyflog presennol rhwng dynion a menywod.

Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd ddoe yn dangos fod y bwlch cyflog yng Nghymru yn £3,188 y flwyddyn ar hyn o bryd, gyda rheolwyr benywaidd fwy neu lai yn gweithio am ddim am bron i awr bob dydd.

Dywedodd Liz Saville Roberts y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn ceisio rhoi diwedd ar weithlefydd sy’n gwahanu ar sail rhyw, a chefnogi merched i ddilyn cyrsiau mewn pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Ychwanegodd hi y dylai cyrff cyhoeddus Cymru orfod cael nifer cytbwys o ddynion a menywod ar fyrddau llywodraethu a rheoli er mwyn taclo anffafriaeth a normaleiddio cydraddoldeb yn y gweithle.

Dywedodd Mrs Saville Roberts: “Dylai cyflog cyfartal a chyflog teg ffurfio conglfeini marchnad lafur gyfiawn.

“Mae’r ffaith fod menywod yn parhau i gael eu talu’n sylweddol llai na dynion am yr un gwaith yn gwbl annerbyniol.

“Mae natur y gwaith a wneir yn aml gan ferched yn cael ei ystyried yn llai gwerthfawr na gwaith dynion, gan olygu fod merched yn cael eu talu llai mewn nifer o achosion. Gall hyn fod oherwydd nifer o ffactorau megis gwaith rhan-amser neu gyfnod mamolaeth, a cholli allan ar ddyrchafiad neu godiad cyflog o ganlyniad.

“Byddai Cyflog Byw i bawb yn gam yn y cyfeiriad cywir tuag at daclo’r broblem ac mae hyn yn parhau i fod yn un o brif ymrwymiadau Plaid Cymru.

“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i sicrhau cydraddoldeb yn y gweithle a chau’r bwlch cyflog presennol.

“I wneud hyn, byddem yn rhoi stop ar weithlefydd yn gwahanu ar sail rhyw a chefnogi merched i ddilyn cyrsiau mewn pynciau STEM mewn addysg uwchradd a phellach.

“Byddem hefyd yn gofyn i gyrff cyhoeddus yng Nghymru i apwyntio’r un nifer o ddynion a merched i’w byrddau rheoli a llywodraethu. Byddai hyn yn helpu i daclo arwahaniaeth, a normaleiddio cydraddoldeb yn y gweithle.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi gosod targed o sicrhau fod 25% o aelodau byrddau’r FTSE 100 yn ferched erbyn 2015. Byddai Plaid Cymru’n mynd yn bellach na hyn yng Nghymru.

“Rydym hefyd eisiau i gwmniau gyhoeddi ffigyrau ar faint maent yn ei dalu i ferched a dynion er mwyn cynyddu tryloywder a sicrhau fod y bwlch cyfoeth yn cau unwaith ac am byth.”

Rhannu |