Mwy o Newyddion
Galw ar y cyhoedd i gadw draw o sioe anifeiliaid gwyllt ym Mhorthmadog
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, yn galw ar y cyhoedd i gadw draw o sioe llewod a teigrod sydd ar fin cychwyn ym Mhorthmadog yr wythnos hon ac yn annog ei hetholwyr i gefnogi ei galwad i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Daw galwad Mrs Saville Roberts AS, yn dilyn wythnos o ymgyrchu ym mhentref Llanwnda ger Caernarfon lle bu’r sioe ar ymweliad yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Trwy rhyw drugaredd, mae’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae maint y diwydiant yn gymharol fach. Ond hoffwn weld y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau yn cael ei wahardd yn gyfan gwbl.
"Mae’r dyddiau o gludo anifeiliaid gwyllt yng nghefn loriau o gwmpas trefi wedi hen ddod i ben. Dengys ymgynghoriad gan y Llywodraeth fod 94% o’r cyhoedd yn cefnogi gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y fath sioeau.
"Mae’r RSPCA yn erbyn defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ar sail llês. Mae anifeiliad cymdeithasol mawr megis llewod, a helwyr unig fel teigrod yn gallu dygymod âg amgylchedd syrcas ond nid ydynt yn ffynnu. Bwriad syrcasau yw darparu adloniant symudol i’r cyhoedd; cyfnodau hir yn teithio, cewyll cyfyng dros dro, hyfforddiant gorfodol a pherfformiadau yw realiti bywyd y syrcas i’r anifeiliaid yma.
"Rhaid gwahardd yr arferiad yma er mwyn gwarchod anifeiliaid gwyllt a sicrhau fod y DU yn efelychu polisi tri deg o wledydd eraill ar draws y byd sydd wedi cyflwyno gwaharddiad. Addawodd y Prif Weinidog y byddai’n rhoi terfyn ar yr hyn a ddisgrifiodd fel ‘arferiad wedi ei ddyddio’, ond does fawr gynnydd wedi bod.
"Rwy’n falch fod Cyngor Gwynedd wedi cymryd safiad cadarn ar y mater yma ac yn gweithredu polisi o wahardd y fath sioeau ar dir y Cyngor. Dyma’r polisi ers peth amser. Rwy’n annog tirfeddiannwyr preifat trwy Wynedd i ddilyn eu hesiampl ac erfynaf ar y cyhoedd i feddwl yn galed cyn cefnogi’r sioe yma.”
Mae Liz Saville Roberts AS yn galw ar y Llywodraeth i symud ymlaen a chyflwyno deddfwriaeth i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn sioeau. Mae Mrs Saville Roberts wedi rhoi ei henw i gynnig swyddogol traws-bleidiol yn y Senedd (EDM192) sy’n galw ar y Llywodraeth i gadw at eu hymrwymiad Maniffesto i ddod a gwaharddiad i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol.