Mwy o Newyddion
Dadl gyntaf etholiadau'r Cynulliad ar yr iaith yn Aberystwyth
Bydd cyfarfod hysting cyntaf etholiadau'r Cynulliad am y Gymraeg yn cael ei gynnal yn neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth ar ddechrau mis Hydref mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi.
Mae'r ddadl etholiadol yn dilyn lansio dogfen weledigaeth y mudiad: 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg' yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf. Mae gwleidyddion o bob plaid eisoes wedi cefnogi tri phrif nod rhaglen y mudiad ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru sef creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob maes bywyd.
Mae dogfen y mudiad iaith yn cynnwys degau o argymhellion i'r pleidiau gwleidyddol gan gynnwys: cyflwyno 'Bil Addysg Gymraeg i Bawb' er mwyn sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg, a pheth addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn; agor rhagor o neuaddau Cymraeg i fyfyrwyr; a sefydlu targedau a chyfrifoldebau clir er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg.
Ymysg cynrychiolwyr y pleidiau a fydd yn annerch yr hystings am 2 o'r gloch yn neuadd Pantycelyn ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Hydref, mae Nia Griffiths AS ar ran y Blaid Lafur, Suzy Davies AC o'r Blaid Geidwadol, yr Aelod Cynulliad dros Geredigion Elin Jones o Blaid Cymru ac Aled Roberts AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn siarad am benderfyniad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gynnal y ddadl rhwng y pleidiau, dywedodd Cadeirydd y mudiad Jamie Bevan: "Mae'r etholiad nesaf yn mynd i fod yn un tyngedfennol i'r iaith. Rydyn ni'n annog caredigion yr iaith o bob cwr o Gymru i ddod i Aberystwyth ar y 3ydd o Hydref i holi'r gwleidyddion er mwyn iddyn nhw sylweddoli pwysigrwydd yr iaith iddyn nhw. Mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod. Mae'r ymgyrch dros sicrhau bod neuadd Pantycelyn yn ail-agor yn 2019 yn mynd i ganolbwyntio meddwl nifer o bobl ar sut mae gwleidyddion yn bwriadu cryfhau'r Gymraeg ym mhob maes bywyd.
"Mae angen i ni fel pobl a'n gwleidyddion codi ein gorwelion. Os ydy ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr ar ddeddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio'r ffordd ymlaen. Gobeithion yn fawr bod y cynigion yn ein dogfen am greu Miliwn o Siaradwyr yn mynd i sbarduno trafodaeth gyhoeddus fywiog ynghyd a dangos pwysigrwydd etholiad 2016 fel un o bwys hanesyddol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru’n gyffredinol. "
Cyn y cyfarfod etholiadol yn y prynhawn, bydd y mudiad yn cynnal ei gyfarfod cyffredinol blynyddol am 10 o'r gloch.