Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Awst 2015

Plaid Cymru yn addo gweithio i gau bwlch digidol Cymru

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi dweud fod angen gwneud mwy i gau'r bwlch digidol yng Nghymru wrth i ffigyrau diweddar ddangos fod mwy nag un o bob pump cartref Cymreig heb fynediad i'r rhyngrwyd a 19% o bobl ddim yn defnyddio'r wê o gwbl.

Dywedodd Mr Williams fod mynediad cyflym, dibynadwy i'r wê yn hanfodol i rwydwaith genedlaethol Cymru o fusnesau bach, ac yn ffordd effeithiol o sicrhau nad yw ardaloedd gwledig yn cael eu gadael ar ôl.

Ychwanegodd y dylai Cymru fabwysiadu 'USO' (Universal Service Obligation) i roi terfyn ar y loteri côd-post sy'n aml yn gadael ardaloedd gwledig gydag ychydig neu ddim mynediad o gwbl i'r byd ar-lein.

Dywedodd Mr Williams: "Gyda mwy a mwy o systemau a mudiadau yn gweithredu ar-lein, mae mynediad cyflym, dibynadwy i'r rhyngrwyd yn hanfodol i gartrefi a busnesau.

"Tra bod Plaid Cymru yn croesawu'r cynnydd bychan yn y nifer o gartrefi Cymreig gyda mynediad i'r rhyngrwyd - o 75% i 78% ers y llynedd - rhaid gwneud llawer mwy i gau bwlch digidol Cymru.

"Byddai 'USO' (Universal Service Obligation) - fel a gefnogir gan Blaid Cymru - yn rhoi terfyn ar y loteri côd-post sy'n felltith ar wasanaethau band-eang ledled y wlad ar hyn o bryd.

"Busnesau bach yw asgwrn cefn yr economi Gymreig. Mae nifer o'r rhain wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig ac nid oes modd iddynt weithredu ar eu gorau heb fynedfa i'r byd ar-lein.

"Mae agwedd swrth Llywodraeth Lafur Cymru at daclo'r mater hwn yn dal yr economi Gymreig yn ei hôl ac yn gadael ardaloedd gwledig ar eu colled.

"Os cawn ein hethol Fai nesaf, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn darparu band-eang cyflym i Gymru gyfan.

"Byddwn yn sicrhau economi gryf drwy gysylltu ein cymunedau yn well a sicrhau fod gan ein busnesau yr offer maent ei angen i gyflawni eu potensial yn llawn."
 

Rhannu |