Mwy o Newyddion
Cyfraddau ailgylchu Cymru’n uwch nag erioed
“Mae ffigurau newydd a gyhoeddir heddiw yn dangos bod Cymru’n ailgylchu mwy nag erioed a’i bod yn well na gwledydd eraill Prydain am ailgylchu”, meddai’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant heddiw.
Mae’r ffigurau diweddaraf amodol yn dangos mai 56% oedd y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar gyfer 2014-15, cynnydd o 2 bwynt canran o’i chymharu â’r llynedd a 4% yn uwch na’r targed statudol o 52%.
Meddai Carl Sargeant wrth groesawu’r ffigurau: “Rwy’n falch iawn bod y cyfraddau ailgylchu’n dal i godi yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i annog trigolion i ailgylchu fwy ac mae’n edrych yn debyg bod hyn yn gwneud gwahaniaeth.
“Newyddion da hefyd yw ein bod ni’n cynhyrchu llai o wastraff cartref na ellir ei ailgylchu. Mae hwnnw wedi cwympo i 47 kilogram y person yn ystod chwarter Ionawr i Fawrth 2015, gan ddangos bod yr ymdrechion i leihau’r gwastraff hwn yn llwyddo a bod llai nag erioed yn cael ei anfon i’w gladdu mewn tomennydd sbwriel.”
Ychwanegodd y Gweinidog: “Er bod croeso mawr i’r ffigurau hyn, mae rhagor o waith i’w wneud o hyd i gyrraedd y nod uchelgeisiol o ddim gwastraff. Rydym am barhau i weithio gydag awdurdodau lleol i wella’u perfformiad a’u helpu i leihau costau. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ddal ati i wneud Cymru’n arweinydd byd yn y maes ailgylchu.”