Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Awst 2015

Y Gweinidog Addysg yn llongyfarch myfyrwyr TGAU ar berfformiad cryf

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis wedi bod yn llongyfarch myfyrwyr ar draws Cymru yn dilyn canlyniadau da yn yr arholiadau TGAU a Bagloriaeth Cymru.
 
Roedd y Gweinidog yn canmol yn benodol y perfformiad cryf a welwyd yng Nghymru yn y pynciau Saesneg, Mathemateg a Chymraeg.
 
Mae canlyniadau TGAU myfyrwyr yng Nghymru eleni yn dangos:

* Bod y gyfradd lwyddo gyffredinol yn 98.7%

* Bod cyfran y graddau A* i C yr un fath â’r llynedd sef 66.6%, y gorau erioed

* Bod cyfran y graddau A* - A yn 19.2%

 Maent hefyd yn dangos gwelliannau gwirioneddol yn y pynciau allweddol, gan gynnwys:

* Graddau Saesneg Iaith A* - C ar gyfer pobl ifanc 16 oed yn cynyddu o 62.6% yn 2014 i 64.0% yn 2015

* Graddau Cymraeg Iaith Gyntaf A* - C yn cynyddu o 72.7% yn 2014 i 73.9% yn 2015

* Graddau Cymraeg Ail Iaith A* - C yn cynyddu o 77.7% yn 2014 i 79.4% yn 2015

* Cynnydd o 1.2% mewn graddau Mathemateg A* - C ar gyfer pobl ifanc 16 oed i 62.8% ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15, o gymharu â 61.6% ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/14

* Graddau A* - C mewn Gwyddoniaeth yn gyffredinol yn cynyddu o 55.8% yn 2014 i 57.5% yn 2015

Mae canlyniadau Bagloriaeth Cymru yn dangos:

* Bod dros 13,000 o fyfyrwyr wedi ennill Diploma Bagloriaeth Cymru.

* Cynnydd o 4% yn nifer y myfyrwyr sy'n cwblhau Bagloriaeth Cymru ar lefel ganolradd, o gymharu â lefelau 2014

* 11,767 o fyfyrwyr yn llwyddo i ennill Diploma Canolradd llawn

Wrth siarad ar ymweliad ag Ysgol Gyfun y Coed Duon, un o'r 40 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn rhaglen Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Addysg: "Mae'r canlyniadau TGAU eleni yn dangos perfformiad cryf arall, wrth i dros dwy ran o dair o'n myfyrwyr lwyddo i ennill o leiaf A*-C. Mae hyn yn deillio o waith caled ac ymdrech barhaus gan ein myfyrwyr a'n hathrawon, ac rwy'n llongyfarch pawb o waelod calon, ar y llwyddiant hwn.
 
"Rwy'n hynod o falch ein bod wedi gweld perfformiad mor gryf yn y pynciau allweddol gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. 
 
"Mae ein perfformiad yn arholiadau Bagloriaeth Cymru hefyd yn achos dathlu, ac mae'n golygu bod gan fwy na 13,000 o fyfyrwyr bluen arall yn eu het, a’u bod yn meddu ar y sgiliau a'r profiadau a fydd yn rhoi mantais bendant iddynt mewn byd sy'n mynd yn fwyfwy cystadleuol.
 
"Does gen i ddim amheuaeth bod ein ffocws ar godi safonau wedi bod o fantais i fyfyrwyr yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at weld cyfradd lwyddo A*-C hyd yn oed yn well ar ôl i ganlyniadau'r flwyddyn lawn gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni."

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Her Ysgolion Cymru sy'n werth miliynau o bunnoedd, a'i nod yw gwella perfformiad mewn deugain o ysgolion Cymru sy'n wynebu'r her fwyaf.

Mae'r deugain o ysgolion yn cael cymorth hyd at £20m o gyllid ychwanegol a rhaglen o gymorth wedi'i deilwra’n benodol iddynt.

Rhannu |