Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Awst 2015

Tri safle o Gymru yn cystadlu am £120,000 i greu trawsnewidiad bywyd gwyllt

Mae’r chwilio am brosiect arweiniol Tyfu’n Wyllt yng Nghymru wedi cychwyn trwy gyhoeddi rhestr fer o dri phrosiect a bydd yr enillydd yn derbyn £120,000 i ddefnyddio blodau gwyllt i drawsnewid llecyn cyhoeddus. 

Mae’r safleoedd ar y rhestr fer yn amrywiol iawn – o ddod â blodau brodorol i ganol dinasoedd, i adrodd stori’r newid graddol o blanhigion brodorol i dirlun trefol i drawsnewid cyn safle gwaith dur yn baradwys ôl-ddiwydiannol. Chi sy’n penderfynu pwy ddaw i’r brig.

Y tri safle yw – RSPB – Darganfod Natur yng Nghaerdydd  #discoverthediff, CBS Torfaen - URBAN BuZZZ “Mae pawb yn siarad amdano” ac O Ffwrnes i Flodau – Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Bydd pob un o’r prosiectau yn derbyn £4,000 i ddatblygu eu cynnig ymhellach, wrth baratoi ar gyfer pleidlais gyhoeddus yn yr hydref. Yn dilyn yr ymgyrch bleidleisio, cyhoeddir enw’r safle buddugol a bydd gweld y blodau’n blodeuo yr haf nesaf yn cofnodi trawsnewid y safle trwy weithgareddau apelgar, llawn hwyl.

Creu’r safle arweiniol yw’r cam nesaf yn ymgyrch genedlaethol ddeinamig Tyfu’n Wyllt i ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd i greu llecynnau ysbrydoledig yn eu hardal leol trwy ddefnyddio planhigion brodorol. Bydd y safle buddugol yn defnyddio’r arian i greu llecyn cymunedol hardd ac ysbrydoledig yng Nghymru i bawb ei fwynhau.

Dywedodd Maria Golightly, Rheolydd Partneriaeth Cymru ar gyfer Tyfu’n Wyllt, “Rydym yn chwilio am safle arweiniol arloesol yng Nghymru fydd yn mynd â’r prosiect i lefel newydd. Rydym am i bawb bleidleisio dros un o’r safleoedd ar y rhestr fer. Bydd y bleidlais gyhoeddus yn penderfynu pa un fydd yn ennill £120,000 i greu trawsnewidiad trwy ddefnyddio planhigion brodorol i greu lleoedd naturiol ysbrydoledig ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

“Yn ogystal â rhoi ail wynt i lecynnau blinedig mewn ffordd greadigol, rydym eisiau annog pobl i ymwneud â’r awyr agored, a chymryd yr amser i fwynhau a dysgu am natur a’n hamgylchedd, tra ar yr un pryd yn elwa ar y manteision o safbwynt Iechyd corfforol a meddyliol a ddaw o dreulio amser yn yr awyr agored gyda phobl eraill.”

Ychwanegodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa’r Loteri Fawr, “Mae Cymru’n wlad brydferth yn barod, ond bydd y prosiect hwn yn wirioneddol helpu trawsnewid llecyn ar gyfer y bobl sydd yn byw yn y gymuned ac ar gyfer y sawl sy’n ymweld â’r ardal dan sylw. Mae pob un ar y rhestr fer wedi dangos potensial enfawr i gyfoethogi llecynnau cymunedol, ond yn y pendraw y cyhoedd fydd yn penderfynu pwy yw’r enillydd.”

Mae’r prosiectau arweiniol Tyfu’n Wyllt arbennig hyn yn un rhan yn unig o’r ymgyrch gyfan sy’n ysbrydoli tair miliwn o bobl i ddod at ei gilydd a gweithredu’n uniongyrchol er lles eu cymunedau a chefnogi blodau gwyllt brodorol. Dros oes y rhaglen, sy’n rhedeg tan 2017, bydd 250,000 o becynnau hau hadau a mwy na 750,000 o becynnau unigol o hadau blodau gwyllt yn cael eu dosbarthu trwy Tyfu’n Wyllt a’i bartneriaid.

Rhannu |