Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Awst 2015

Pecyn buddsoddi gwerth £3 biliwn i drawsnewid tirlun Abertawe

Bydd pecyn buddsoddi gwerth £3 biliwn yn arwain at y newidiadau mwyaf mewn 70 o flynyddoedd i dirlun Abertawe, yn ôl Arweinydd Cyngor Abertawe.

Dywedodd y Cyng Rob Stewart y bydd cyfuniad o brosiectau cyfredol a chynlluniedig yn tynnu sylw ychwanegol at Abertawe fel dinas arloesedd fyd-eang sy'n cefnogi busnesau.

Dywedodd fod prosiectau fel Morlyn Llanw Bae Abertawe, dau gampws prifysgol newydd a gwaith Tai Coastal i adfywio'r Stryd Fawr a rhan o Stryd y Gwynt yn golygu bod y ddinas yn gwneud penawdau cadarnhaol ledled y byd.

Meddai'r Cyng Stewart: "Mae'r cyfnod hwn yn un hynod galonogol i Abertawe gyda chynifer o brosiectau cyfoes a chynlluniedig yn codi proffil ein dinas ar draws y byd.

"Dros y naw mis diwethaf, mae Abertawe wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad gwerth tua £3 biliwn o ganlyniad i waith partneriaeth agos rhwng y cyngor a sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant,  Tai Coastal a Morlyn Llanw Bae Abertawe.

"Mae ymagwedd tîm Abertawe yn gryfach nag erioed. Mae'n golygu y bydd Abertawe cyn bo hir yn gweld y newidiadau mwyaf i'w thirlun ers i'r ddinas gael ei hail-adeiladu ar ôl yr Ail Ryfel Byd."

Mae prosiectau eraill y mae'r Cyng. Stewart yn cyfeirio atynt yn cynnwys cynlluniau i adfywio canol y ddinas.

Meddai: "Bydd datblygwyr sydd ar y rhestr fer yn cyflwyno eu ceisiadau terfynol i adfywio safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant cyn bo hir, a bydd cynlluniau i drawsnewid Ffordd y Brenin yn ardal gyflogaeth yn cyflymu yn nes ymlaen yn y flwyddyn pan fydd gwaith yn dechrau i ddymchwel hen adeilad clwb nos Oceana. Bydd hyn yn helpu i gyflwyno cymysgedd o leoedd hamdden a manwerthu y mae ein preswylwyr yn ei haeddu, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a fydd yn rhoi hwb i fasnachwyr presennol ac yn denu mwy o fuddsoddiad.

Dywedodd y Cyng Stewart y byddai busnes hefyd yn elwa o well cyfathrebu nag erioed o'r blaen.

Meddai: "Bydd pobl yn gallu gweld mwy na datblygiadau go iawn â'u llygaid eu hunain. Caiff y rheilffordd o Lundain i Abertawe ei thrydanu hefyd ac mae BT wedi cadarnhau y bydd yn treialu band eang cyflym iawn mewn 100 o gartrefi a busnesau yn Abertawe.

"Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa gref i wneud cais am Fargen Ddinesig gan Lywodraeth y DU a fyddai'n helpu i wneud Abertawe yn ddinas gall, gan ddatgloi buddsoddiad gwerth miliynau mwy o bunnoedd."

Rhannu |