Mwy o Newyddion
Dim lle gwleidyddion yw penderfynu gofal iechyd gogledd Cymru
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros etholaeth Arfon, Alun Ffred Jones AC, wedi datgan na ddylai ystyriaethau gwleidyddol tymor byr ddylanwadu ar ddyfodol siâp gwasanaethau aciwt yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Dywedodd Mr Jones fod ansicrwydd ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd Gogledd Cymru yn creu pryder mawr a phoendod ymysg staff clinigol yn Ysbyty Gwynedd, yn enwedig ymysg staff sy’n gweithio yn unedau pediatrig a mamolaeth.
Daw sylwadau Mr Jones wrth i Brif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Simon Dean, gyhoeddi ymgynghoriad 100 niwrnod ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd ar draws Gogledd Cymru.
Dywedodd Alun Ffred Jones AC: “Awgrymaf y dylai pobl gogledd Cymru leisio eu barn yn gryf ar yr angen i gael ysbyty aml bwrpasol ym Mangor.
"Tydw i ddim yn gwybod os yw’r model o gael tri ysbyty cyffredinol i’r gogledd yn gynaliadwy, ond yr hyn sy’n sicr yw na all ystyriaethau gwleidyddol tymor byr ddylanwadu ar ddyfodol siâp gwasanaethau aciwt.
"Mae Ysbyty Glan Clwyd yn wynebu sawl argyfwng; gormod o feddygon dros dro, diffyg hyfforddiant meddygol a gor-wariant rhaglen adeiladu oddeutu £30 miliwn.
"Fy mhryder i yw y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn ceisio cefnogi sefyllfa gynhennus Ysbyty Glan Clwyd ar draul Ysbyty Gwynedd er mwyn hwylustod gwleidyddol tymor byr.
"Mae rhan helaeth o ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd yn digwydd yn y gymuned. Ond bum mlynedd ers rhaglen newidiadau’r llywodraeth, a ydym rhywfaint yn gallach pa newidiadau sydd wedi digwydd ar lawr gwlad?
"Rhaid i unrhyw newidiadau fod yn seiliedig ar anghenion pobl, amseroedd teithio rhesymol a diogel – nid ystyriaethau gwleidyddol tymor byr.”