Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Awst 2015

100 diwrnod i fynd tan i’r gyfraith rhoi organau newid yng Nghymru

Wrth i’r ymgyrch symud i’w 100 diwrnod olaf mae pobl sy'n byw yng Nghymru yn cael eu hannog i feddwl am eu dewisiadau rhoi organau ac i siarad â'u hanwyliaid amdanynt. 

Fel rhan o'r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus Rhoi Organau Cymru, Mae'n Amser i Ddewis, mae pobl o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhannu eu straeon am roi organau. 

Mae eu straeon yn dangos bod cannoedd o bobl wedi eu heffeithio gan roi organau yng Nghymru, p'un a ydynt yn aelodau o'r teulu rhoddwr, derbynwyr organau, bobl sy'n aros am drawsblaniad organ neu deuluoedd a chyfeillion sydd wedi cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan roi organau.

Ar 1 Rhagfyr, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau, pan ddaw'r ddeddf newydd i rym. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl wneud penderfyniad ynghylch a ydynt yn dymuno i fod yn rhoddwyr organau. 

O dan y system newydd, os nad yw pobl wedi cofrestru penderfyniad i ddod yn rhoddwr organau (optio i mewn) neu wedi penderfynu peidio i fod yn rhoddwr organau (optio allan), byddant yn cael eu hystyried fel nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organ - mae hyn yn ei adnabod fel caniatâd tybiedig. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: "Ar 1 Rhagfyr, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system feddal o optio allan. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i achub bywydau trwy drawsnewid agweddau tuag at ganiatâd i roi organau. 

"Yn ystod yr ymgyrch ymwybyddiaeth cyhoeddus, rydym wedi cwrdd,  a gweithio gyda phobl wych sydd â straeon rhoi organau mwyaf anhygoel i'w rhannu. Byth a beunydd yr hyn sy’n codi yw’r pwysigrwydd trafod am roi organau. 

"Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn parhau siarad â'u hanwyliaid am eu dewisiadau roi organau."

O 1 Rhagfyr 2015, y dewisiadau fydd:

I fod yn rhoddwr, gall unigolyn:

• Cofrestru penderfyniad i fod yn rhoddwr (optio i mewn) neu

• Dewis gwneud dim.

Os byddwch yn gwneud dim, byddwch yn cael eich trin fel os nad oes gennych wrthwynebiad i fod yn rhoddwr organau. 

 I beidio â bod yn rhoddwr, gall unigolyn:

• Cofrestru penderfyniad i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan) 

Fel y system bresennol, bydd unrhyw un yn gallu cofrestru penderfyniad i roi holl organau a meinweoedd neu i ddewis organau neu feinweoedd penodol.

Mae nifer o deuluoedd yn gwrthod rhoi organau os nad ydynt yn gwybod beth oedd dymuniadau eu hanwyliaid. Beth bynnag yw eich penderfyniad rhoi organau, gwnewch amser i siarad â'ch anwyliaid .

Gellir cael mwy o wybodaeth:

www.rhoiorganau.org; Facebook: https://www.facebook.com/OrganDonationWales; Twitter: https://twitter.com/OrgDonationCYM neu ffoniwch y llinell Rhoi Organau ar 0300 123 23 23.

Rhannu |