Mwy o Newyddion
John Owen-Jones i serennu yn Proms yn y Parc
Bydd seren y West End a Broadway, y canwr John Owen-Jones, yn rhannu'r llwyfan gyda Rebecca Evans yn Proms yn y Parc y BBC ddydd Sadwrn 12 Medi ym Mharc Singleton.
Ym mis Medi, mae'r perfformiwr eithriadol hwn o Borth Tywyn i ail-greu cymeriad y Phantom yn The Phantom of the Opera, y cafodd adolygiadau gwych amdano yn y gorffennol. Ac mae ganddo hefyd ddilynwyr ymhob rhan o'r byd yn sgil y rôl honno.
Yn enwog am ei hyblygrwydd cerddorol, mae John yn fwyaf enwog am ei rôl fel Jean Valjean yn Les Misérables, gyda chynulleidfaoedd yn eu dagrau gyda'i ddehongliad o Bring Him Home.
Bydd y seren o Gymru yn perfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, dan arweiniad Gareth Jones.
Gareth, a aned yng Nghastell-nedd, oedd sefydlydd a Chyfarwyddwr Cerdd Sinfonia Cymru, ac ef bellach yw'r Prif Arweinydd ac mae wedi arwain mewn tai opera, mewn cyngherddau ac mewn gwyliau ym mhedwar ban byd.
Gan ychwanegu at y wledd Gymreig, Alex Jones, sy'n wreiddiol o Rydaman, a Tim Rhys-Evans, arweinydd Only Men Aloud fydd yn gyfrifol am gyflwyno'r noson anhygoel hon sy'n cael ei chefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad a gefnogir gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir ddydd Sadwrn, 12 Medi, ar gael yn awr. Mae tocynnau ymlaen llaw i oedolion yn £10 yn ystod mis Gorffennaf a bydd y pris yn codi i £12 ar 1 Awst tan y diwrnod cyn y digwyddiad a £15 ar y diwrnod. Caiff plant dan 12 oed sydd gydag oedolyn fynediad am ddim.
Gall cefnogwyr y Proms fwynhau’r awyrgylch gartref hefyd, oherwydd bydd BBC Radio Wales yn darlledu’n fyw o Barc Singleton, neu ar iPlayer drwy gyfrwng bbc.co.uk/radiowales.
I gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau’r digwyddiad, ac i brynu tocynnau, ewch i bbc.co.uk/promsinthepark